Cywydd deuair hirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.<ref>''Anghenion y Gynghanedd'', Alan Llwyd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973.</ref> |
Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.<ref>''Anghenion y Gynghanedd'', Alan Llwyd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973.</ref> |
||
O'r [[traethodl]] y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn [[Glêr]]. Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod [[torr mesur]] ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir [[cynghanedd lusg]] yn ail linell y cwpled. Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl. |
O'r [[traethodl]] y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn [[Glêr]]. Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod [[torr mesur]] ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir [[cynghanedd lusg]] yn ail linell y cwpled, a gelwir y bai hwn yn "llysiant llusg". Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl. |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 10:27, 3 Mehefin 2010
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Ffurfir y cywydd deuair hirion o gwpledi sy'n odli, saith sillaf i bob llinell, a phob llinell mewn cynghanedd. Dyma'r ffurf fwyaf cyffredin o lawer ar y cywydd. Rhaid i un brifodl fod yn acennog a'r llall yn ddiacen, er nad oes ots ym mha drefn y gwneir hynny.
Dyma enghraifft gan Waldo Williams:
- Pa eisiau dim hapusach,
- Na byd yr aderyn bach?
- Byd o hedfan a chanu
- A hwylio toc i gael tŷ.
Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.[1]
O'r traethodl y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn Glêr. Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod torr mesur ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir cynghanedd lusg yn ail linell y cwpled, a gelwir y bai hwn yn "llysiant llusg". Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl.
Cyfeiriadau
- ↑ Anghenion y Gynghanedd, Alan Llwyd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973.
Gweler hefyd