Rhun ap Maelgwn Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau)
categori
Llinell 19: Llinell 19:
|}
|}


[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]

[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Category:Cymry enwog]]
[[Category:Cymry enwog]]



Fersiwn yn ôl 23:28, 4 Tachwedd 2006

Roedd Rhun ap Maelgwn Gwynedd (492? - 582?), a adnabyddir hefyd fel Rhun Hir, yn frenin Gwynedd o 547 hyd ei farwolaeth.

Daeth Rhun yn frenin Gwynedd pan fu farw ei dad, Maelgwn Gwynedd, o bla y "fad felen" yn 547 (neu efallai 549). Nid oes llawer o wybodaeth ar gael amdano, heblaw yn llawysgrif fersiwn Gwynedd o gyfreithiau Hywel Dda. Yn ôl yr hanes yma yr oedd Elidyr Llydanwyn, brenin Rheged yn briod a chwaer Rhun. Hawliodd Elidir orsedd Gwynedd, ond pan ymwelodd a'r deyrnas lladdwyd ef gan wyr Arfon yn Aber Meweddus, gerllar Clynnog. I ddial ei farwolaeth, ymosodwyd ar Wynedd gan ei ddau gefnder, Rhydderch Hael o Ystrad Clud a Clydno Eiddin. Dywedir i'w byddin hwy ddiffeithio Arfon, ac i ddial am hyn arweiniodd Rhun fyddin i'r gogledd cyn belled ag Afon Forth.

Yr oedd Rhun, fel yr awgryma ei lysenw "Rhun Hir" yn ddyn mawr o gorffolaeth, ac ystyried ef y pennaf o'r brenhinoedd Cymreig cyfoes. Mae cyfeiriad ato yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy. Yn y chwedl yma mae'r Brenin Arthur a'i gynghorwyr wedi derbyn cais gan eu gelyn Osla am gadoediad o chwech wythnos. Mae Arthur yn trafod hyn gyda'i gynghorwyr, yna maent i gyd yn mynd at ddyn mawr, tal sy'n eistedd ar wahan. Mae Rhonabwy yn holi'r rheswm am hyn, a dywedir wrtho mai Rhun ap Maelgwn Gwynedd ydyw, a bod yn rhaid i bawb ddod i geisio ei gyngor ef yn hytrach na bod ef yn mynd at eraill. Yn ôl un o'r Trioedd Cymreig yr oedd Rhun mor fawr nes bod rhaid cael offer arbennig i'w gael ar gefn ceffyl. Dilynwyd ef gan ei fab Beli.

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).

J.E. Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)

O'i flaen :
Maelgwn Gwynedd
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Beli ap Rhun|