Trabzon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: be:Горад Трабзон |
B robot yn ychwanegu: la:Trapezus |
||
Llinell 42: | Llinell 42: | ||
[[ko:트라브존]] |
[[ko:트라브존]] |
||
[[ku:Trabzon]] |
[[ku:Trabzon]] |
||
[[la:Trapezus]] |
|||
[[lt:Trabzonas]] |
[[lt:Trabzonas]] |
||
[[mk:Трабзон]] |
[[mk:Трабзон]] |
Fersiwn yn ôl 15:11, 19 Mai 2010
Dinas hynafol ar arfordir y Môr Du yng ngogledd-ddwyrain Twrci yw Trabzon (hen enw: Trebizond).
Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn ganolfan weinyddol i dalaith Trabzon.
Hanes
Sefydlwyd y dref hynafol fel trefedigaeth gan Roegwyr o Filetus yn y 6ed ganrif CC. Ymsefydlasant ar graig geometraidd ei ffurf a roddodd iddi ei henw gwreiddiol Trapezos (y gair Groeg am "bwrdd"). Roedd hi'n ddinas bwysig yn y cyfnod Bysantaidd. O'r flwyddyn 1204 hyd 1461 Trebizond oedd prifddinas Ymerodraeth Trebizond a reolai ran sylweddol o Asia Leiaf. Erys sawl adeilad gwych o'r cyfnod hwnnw yn yr hen ddinas. Cofnodir i'r Pla Du gyrraedd y ddinas yn y flwyddyn 1347, ar ei ffordd i Ewrop. Cipiwyd Trebizond gan Mehmet y Cwncwerwr yn 1451.
Ar ymyl y ddinas mae hen eglwys Fyzantaidd Santa Sophia yn sefyll mewn lecyn prydferth.
Sefydlwyd prifysgol yno yn 1980.