Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B categori
Llinell 14: Llinell 14:


[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Tai Crefydd Cymru]]
[[Categori:Tai crefydd Cymru]]

Fersiwn yn ôl 17:28, 4 Tachwedd 2006

Priordy yn Nghaerfyrddin a sefydlwyd yn Oes y Saint ac a ddaeth yn ddiweddarach i berthyn i Urdd yr Awstiniaid. Nid yw'n sefyll heddiw. Yno yn y 13eg ganrif ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin, un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf.

Hanes

Credir bod gwreiddiau'r sefydliad i'w olrhain i oes y saint Celtaidd cynnar pan sefydlwyd clas (cell neu fynachlog feudwyol) gan Teulyddog Sant, efallai yn y 6ed ganrif. Os gwir hynny mae'n debyg mai i'r ddwyrain o'r hen dref Rufeinig Maridunum ar lan ddwyreiniol Afon Tywy y codwyd yr eglwys gynharaf. Erbyn 1100 roedd eglwys yn bodoli ar y safle, gysegredig i Ieuan Efengylwr; eglwys plwyf Caerfyrddin yn ddiweddarach. Cyflwynwyd yr eglwys honno ynghyd ag eglwys y fynachlog i abaty Abaty Battle gan y brenin Harri I a daeth yn eiddo i Urdd y Benedictiaid am rai flynyddoedd. Ond fe'i rhoddwyd i'r Awstiniaid gan yr Esgob Bernard o Dyddewi yn 1125 a chysegrwyd yr eglwys i Ioan Efengylwr a Theulyddog. Roedd Cymry'n amlwg yn y priordy (nid oedd hynny'n wir am bob priordy Normanaidd yn y wlad), ffaith sy'n gyfrifol am lwyddiant cynnar y sefydliad, efallai. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyn i'r priordy ddechrau ymnormaneiddio, yr ysgrifenwyd y llawysgrif sy'n adnabyddus heddiw fel Llyfr Du Caerfyrddin gan ysgrifenwr anhysbys oedd yn perthyn i'r priordy. Roedd hefyd yn mwynhau incwm o'i feddiannau yn yr hen dref. Yn 1291 roedd incwm y sefydliad yn £30 ond mae'n debyg nad oedd hynny'n cynnwys yr incwm o'r tua 1500 erw o dir âr oedd yn ei feddiant yn yr ardal. Erbyn 1336 roedd gan y priordy incwm o £66 ac roedd chwech canon yn byw yno yn 1379. Erbyn diwedd y 14eg ganrif roedd 22 eglwys yn ei feddiant a mwynheai incwm o tua £200. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Owain Glyndŵr dioddefodd ddifrod sylweddol. Parhaodd fel sefydliad Awstinaidd tan 1536; pan y diddymwyd roedd prior ac wyth canon yn byw yno gyda tua 80 o bobl yn gweithio iddo ac elusen yn cael ei rhoi i tua 80 o dlodion; gwerth y priordy oedd £164.

Yr Adeiladau

Diflanwyd bron y cyfan o'r adeiladau olaf oedd yn dal i sefyll pan gododd Yr Arglwydd Cawdor waith plwm ar y safle yn y 18fed ganrif. Cloddiwyd y safle yn 1979 gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a darganuwyd safle rhai o'r adeiladau, gan gynnwys hwnnw'r eglwys, a oedd â hyd o 55m, o leiaf. Roedd yr adeiladau i gyd yn gorwedd y tu mewn i lan sylweddol gyda phorth yn y gogledd-orllewin; mae'r porth yn dal i sefyll heddiw ar Ffordd Y Priordy. Yn anffodus nid yw'n bosibl lleoli'r scriptorium lle, mae'n debyg, yr ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin.

Llyfryddiaeth

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992). ISBN 0715407120
  • Alwyn C. Evans, "St John's Priory, Carmarthen" (Archaeolegia Cambriensis, 1876).
  • Terence James, "Excavations at the Augustinian Priory of St John and St Teulyddog, Carmarthen, 1979 (Archaeolegia Cambriensis, 1985).