Llosgfynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B manion; comin, eginyn
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: hu:Tűzhányók
Llinell 87: Llinell 87:
[[hi:ज्वालामुखी]]
[[hi:ज्वालामुखी]]
[[hr:Vulkan]]
[[hr:Vulkan]]
[[hu:Vulkán]]
[[hu:Tűzhányók]]
[[ia:Vulcano]]
[[ia:Vulcano]]
[[id:Gunung berapi]]
[[id:Gunung berapi]]

Fersiwn yn ôl 10:37, 18 Mai 2010

Llosgfynydd yn Tambora, Indonesia

Caiff llosgfynydd (mynydd tân) ei greu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 100km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf lafa neu lydw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys creigiau a nwy.

Gelwir y creigiau sydd yn ffurfio o achos ffrwydriadau folcanig yn Greigiau Igenaidd, er enghraifft Basalt neu Gwenithfaen.

Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.

Llosgfynydd yn Ynys yr Iâ ydy Eyjafjallajökull ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan.

Llosgfynyddoedd y Byd

Rhai o losgfynyddoedd enwog y ddaear yw:

Llosgfynyddoedd Cymru

Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er engraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol