Bow Street: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Cyfeiriadau: Manion cyffredinol / cyfieithu gan fwyaf using AWB
Llinell 27: Llinell 27:


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
<references/>


{{Trefi Ceredigion}}
{{Trefi Ceredigion}}

Fersiwn yn ôl 05:09, 2 Ebrill 2019

Bow Street
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4419°N 4.0286°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN6284 Edit this on Wikidata
Cod postSY24 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng Ngheredigion yw Bow Street ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr A487 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Mae yn ardal Genau'r Glyn.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Yn ôl rhai awdurdodau 'Nantafallen' neu 'Nantyfallen' oedd hen enw'r gymdogaeth, ond 'Bow Street' yw'r unig enw arni heddiw (does dim fersiwn Cymraeg).

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

O ganol y pentref mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach Clarach a Bae Clarach ar yr arfordir, ar y ffordd i'r Borth. I'r de mae Comins Coch ac i'r dwyrain Plas Gogerddan. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad Rhaeadr Gwy. Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhydypennau.

Mae'r pentref bellach yn bentref gymudo i bobl sy'n gweithio yn Aberystwyth.

Enwogion

Gorsaf reilffordd Bow Street

Agorwyd gorsaf reilffordd Bow Street yn 1876 ond caewyd hi fel rhan o doriadau Beeching yn 1965. Wedi pwysau lleol, ceir cynlluniau i'w hail-agor ym Mawrth 2020.

Tîm Pêl-droed

Mae gan Bow Street ei thîm pêl-droed. Mae timau Clwb Pêl-droed Bow Street yn gwisgo crysau du a gwyn streipiog, yn debyg i grys Newcastle United. O'r herwydd llysenw y tîm yw 'Y Piod'.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014