Ffynnon Trevi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: en:Trevi Fountain
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
B un llun yn ddigon
Llinell 1: Llinell 1:
[[File:Trevi Fountain, Rome, Italy 2 - May 2007.jpg|thumb|right|250px|Ffynnon Trevi.]]
[[File:Trevi Fountain, Rome, Italy 2 - May 2007.jpg|thumb|right|250px|Ffynnon Trevi.]]
[[File:Trevi Fountain, Rome, Italy 2 - May 2007.jpg|thumb|right|250px|Ffynnon Trevi.]]



Fersiwn yn ôl 07:18, 16 Mai 2010

Ffynnon Trevi.

Mae'r Ffynnon Trevi (Fontana di Trevi) yn ffynnon enfawr ac hanesyddol yn Rhufain, Yr Eidal. Mae hi'n 25.9 medr o uchder a 19.8 medr lled, a hi yw'r ffynnon Baroc mwyaf yn y ddinas. Saif ar groesiad tri ffordd (tre vie).

Yn y 15ed ganrif adferwyd hen arfer Rhufeinig o osod ffynnon ar ddiwedd bob 'traphont' hir i'r ddinas. Yn y canoloesoedd roedd y Rhufeinwyr yn tynnu dwr o ffynhonau dwfn llygredig. Felly yn 1453, adeiladwyd y Ffynnon Trevi wreiddiol gan Pab Nicholas V wedi i'r rhufeinwyr trwsio'r traphont Acqua Vergine.

Yn 1629 mae'r Pab Urbanus VIII, wedi comisiynu Gian Lorenzo Bernini i greu ffynnon fwy trawiadol i wynebu'r Palas Quirinal. Er wychder cynllun Bernini mae ffynnon gan Nicola Salvi sy'n sefyll yno heddiw. Comisiynwyd hyn yn 1730 gan y Pab Clement XII

Erbyn heddiw mae miloedd o dwristiaid yn taflu arian i mewn i'r ffynnon bob dydd (tua tair mil ewro y dydd)- yn ol y cred mae hyn yn sicrhau bydd rhywun yn dychwelyd eto i Rhufain. Mae'r grisiau o gwmpas y Ffynnon yn lle bobogaidd i eistedd drwy'r flwyddyn ac edmygu'r celfyddwaith.

Y Cwpan Asso di coppe

Tu ol i'r ffynnon mae'r Palazzo Poli, ac mae cerflun trawiadol o'r Duw Triton

Cyfeiriadau