Red Deer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: eo:Red Deer (urbo) |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ur:ریڈ ڈئیر(البرٹا) |
||
Llinell 33: | Llinell 33: | ||
[[tr:Red Deer (Alberta)]] |
[[tr:Red Deer (Alberta)]] |
||
[[uk:Ред-Дір (Альберта)]] |
[[uk:Ред-Дір (Альберта)]] |
||
[[ur:ریڈ ڈئیر(البرٹا)]] |
|||
[[vi:Red Deer, Alberta]] |
[[vi:Red Deer, Alberta]] |
||
[[vo:Red Deer]] |
[[vo:Red Deer]] |
Fersiwn yn ôl 23:44, 14 Mai 2010
- Gweler hefyd Red Deer (gwahaniaethu).
Dinas yng nghanolbarth Alberta, Canada yw Red Deer. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Calgary ac Edmonton, a dyma drydedd ddinas fwyaf Alberta ar ôl y dinasoedd hynny. Fe'i hamgylchynir gan Swydd Red Deer. Poblogaeth: 89,891 (2009).
Gorwedd dinas Red Deer ar lan Afon Red Deer mewn ardal o fryniau coediog a nodweddir gan goedwigoedd aspen a meysydd agored lle mae'r economi yn seiliedig ar gynhyrchu olew a grawnfwyd a magu gwartheg. Dosberthir cynhyrchion y diwydiannau hyn o Red Deer.
Bu'r ardal yn gartref i bobloedd brodorol cyn dyfodiad yr Ewropeaid cyntaf yn y 18fed ganrif. Sefydlwyd gwersyll masnachu yno yn 1882, a gymerodd ei enw ar ôl yr afon sy'n llifo trwy'r ardal, a daeth yn dref yn 1901 ac yn ddinas yn 1913.
Dolen allanol
- (Saesneg) Gwefan dinas Red Deer