Llandarcy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) B Trefi CNPT |
|||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
== Ail-ddatblygiad == |
== Ail-ddatblygiad == |
||
Defnyddwyd y tir a oedd heb ei ddefnyddio wedi lleihau'r burfa, ar gyfer nifer o whanol bethau. Adeiladwyd swyddfeydd newydd ardalol ar gyfer [[Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru]] a datblygwyd y tir ger yr hen fynedfa i'r burfa ger yr M4 yn barc busnes.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.npt.gov.uk/default.aspx?page=1605| cyhoeddwr=Neath Port Talbot County Borough Council| teitl=Development of Sites and Premises}}</ref> Mae gweddill y tir |
Defnyddwyd y tir a oedd heb ei ddefnyddio wedi lleihau'r burfa, ar gyfer nifer o whanol bethau. Adeiladwyd swyddfeydd newydd ardalol ar gyfer [[Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru]] a datblygwyd y tir ger yr hen fynedfa i'r burfa ger yr M4 yn barc busnes.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.npt.gov.uk/default.aspx?page=1605| cyhoeddwr=Neath Port Talbot County Borough Council| teitl=Development of Sites and Premises}}</ref> Mae gweddill y tir diwydiannol lle lleolwyd y burfa hefyd yn cael ei ail-ddatblygu'n bentref newydd, sef [[Coed Darcy]]. Mae gan Ymddiriodolaeth y Tywysog ddiddordeb yn y cynllun, sy'n ceisio ei ddatblygu fel "Pentref Trefol", yn yr un modd a datblygwyd pentref [[Poundbury]] yn [[Dorset]].<ref>{{dyf gwe|url=http://www.civictrustwales.org/llandarcy.htm| teitl=Llandarcy Urban Village Project| dyddiadcyrchiad=2007-12-23| cyhoeddwr=The Civic Trust for Wales| iaith=Saesneg}}</ref> |
||
== Cyfeiriadau == |
== Cyfeiriadau == |
Fersiwn yn ôl 17:23, 14 Mai 2010
Pentref ger Castell-nedd ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Llandarcy, a chyn-safle purfa olew cyntaf y Deyrnas Unedig. Safai'r pentref ger cyffordd 43 yr M4. Cyllunwyd yn wreiddiol fel tref newydd i gartrefu gweithwyr y purfa a adeiladwyd gan gwmni BP rhwng 1918 ac 1922.[1]
Hanes
Dewiswyd Llandarcy fel safle'r burfa olew oherwydd ei agosatrwydd â Phorthladd Abertawe, i le cafodd olew crai ei gludo dros y môr o'r Dwyrain Canol. Cafodd y safle ei ddifrodi gan fomio Luftwaffe ym 1940.[2] Ar ei bwynt uchaf, roedd y burfa'n gyflogwr o bwys yn ne-orllewin Cymru, gyda dros 2600 o weithwyr.[3] Ond, roedd hefyd yn gyfrifol am lygredd diwydiannol yng Nghors Crymlyn gerllaw, ardal a ddynodwyd fel Lleoliad Diddorbed Wyddonol Arbennig.[4] Cafodd graddfa'r gweithgareddau ar y safleu eu lleihau'n raddol dros y blynyddoedd, a caewyd y safle ym 1998.[5]
Enwyd y pentref ar ôl William Knox D'Arcy (cyfarwyddwr a sefydlodd y cwmni olew Anglo-Persian, rhagflaenydd BP), ac adeiladwyd tua 250 o dai allan o gerrig ynghyd a chanolfan gymunedol a siop leol.
Roedd y pentref yn leoliad llofruddiaeth y merched ysgol Pauline Floyd, Geraldine Hughes a Sandra Newton ym 1973. Arhosodd eu llofruddiwr yn anwybyddus am 29 mlynedd, tan 2002, pan gymerwyd tystiolaeth DNA gan Heddlu De Cymru o fedd Joe Kappen, a weithiodd fel dyn drws, gyrrwr loriau a bysiau. Bu farw Kappen o gancr yr ysgyfaint ar 17 Mehefin 1990, yn 49 oedd, ac aeth a'i gyfrinach gydag ef i'w fedd.[6]
Chwaraeon a hamdden
Rhedodd gwmni BP hefyd glwb chwaraeon a hamdden. Yn dilyn cau'r burfa, prynwyd y ganolfan gan gwmni Llandarcy Park Ltd, a ail-ddatblygodd y safle gyda chlwb heini a iechyd newydd, gwesty a bwyty.[7] Mae Llandarcy yn gartref i'r Glamorgan Health & Racquets Club, sydd â ystod o gyfleusterau chwaraeon allanol a dan do,[8] ac Academi Chwaraeon Llandarcy, sydd â un o'r unig ddau faes ymarfer gwair dan do yng Nghymru.[9]
Ail-ddatblygiad
Defnyddwyd y tir a oedd heb ei ddefnyddio wedi lleihau'r burfa, ar gyfer nifer o whanol bethau. Adeiladwyd swyddfeydd newydd ardalol ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a datblygwyd y tir ger yr hen fynedfa i'r burfa ger yr M4 yn barc busnes.[10] Mae gweddill y tir diwydiannol lle lleolwyd y burfa hefyd yn cael ei ail-ddatblygu'n bentref newydd, sef Coed Darcy. Mae gan Ymddiriodolaeth y Tywysog ddiddordeb yn y cynllun, sy'n ceisio ei ddatblygu fel "Pentref Trefol", yn yr un modd a datblygwyd pentref Poundbury yn Dorset.[11]
Cyfeiriadau
- ↑ Investor Site Visit: Brownfield renewal in the South West and Wales region. St. Modwen Properties PLC (1 Hydref 2007).
- ↑ Assessment and Restoration of the BP Llandarcy Refinery Landfill (25 Mai 2004).
- ↑ Land Restoration / Llandarcy, Wales.
- ↑ BTC General Oil Spill Response Plan: Appendix F, Potential Impacts of Oil Spillage to an Onshore Environment.
- ↑ Progressive: The helios awards. BP.
- ↑ The hunt for the Saturday Night Strangler. The Guardian (18 Ionawr 2003).
- ↑ Press Release: Llandarcy Park Ltd. Neath Port Talbot County Borough Council (19 Chwefror 2001).
- ↑ The Glamorgan Health & Racquets Club.
- ↑ Llandarcy Academy of Sport.
- ↑ Development of Sites and Premises. Neath Port Talbot County Borough Council.
- ↑ (Saesneg) Llandarcy Urban Village Project. The Civic Trust for Wales. Adalwyd ar 2007-12-23.
Dolenni allanol
- Academi Chwaraeon Llandarcy
- Coed Darcy Urban Village
- www.geograph.co.uk : lluniau Llandarcy a'r ardal cyfagos
Trefi
Aberafan · Castell-nedd · Glyn-nedd · Llansawel · Pontardawe · Port Talbot
Pentrefi
Aberdulais · Abergwynfi · Alltwen · Baglan · Banwen · Bedd y Cawr · Blaendulais · Blaen-gwrach · Blaengwynfi · Bryn · Cil-ffriw · Cilmaengwyn · Cilybebyll · Y Clun · Y Creunant · Cwmafan · Cymer · Cwm-gors · Cwmllynfell · Dyffryn Cellwen · Efail-fach · Glyncorrwg · Godre'r-graig · Gwauncaegurwen · Llandarcy · Llangatwg · Llan-giwg · Margam · Melin-cwrt · Morfa Glas · Onllwyn · Pentreclwydau · Pontrhydyfen · Pwll-y-glaw · Resolfen · Rheola · Rhos · Rhyd-y-fro · Sgiwen · Tai-bach · Ton-mawr · Tonna · Trebannws · Ynysmeudwy · Ystalyfera