Sinn Féin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: mk:Шин Фејн
B robot yn ychwanegu: simple:Sinn Féin
Llinell 80: Llinell 80:
[[sco:Sinn Féin]]
[[sco:Sinn Féin]]
[[sh:Sinn Féin]]
[[sh:Sinn Féin]]
[[simple:Sinn Féin]]
[[sk:Sinn Féin]]
[[sk:Sinn Féin]]
[[sr:Шин Фејн]]
[[sr:Шин Фејн]]

Fersiwn yn ôl 07:46, 7 Mai 2010

Arthur Griffith
Gerry Adams

Mae Sinn Féin yn enw sydd wedi ei ddefnyddio gan nifer o bleidiau cenedlaethol Gwyddelig, bob un yn hawlio bod yn olynydd i'r blaid wreiddiol a ffurfiwyd gan Arthur Griffith yn 1905. Mae'r enw'n golygu "Ni'n hunain" mewn Gwyddeleg.

Daeth llwyddiant etholiadol i'r blaid yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn 1916. Pan ryddhawyd y rhai oedd yn weddill o arweinwyr y gwrthryfel yn 1917, daethant yn amlwg yn Sinn Féin, gyda Éamon de Valera yn cymeryd lle Griffith fel arweinydd.

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918, enillodd Sinn Féin 73 o'r 106 sedd yn Iwerddon, gan gymeryd lle'r Blaid Seneddol Wyddelig fel arweinwyr y mudiad cenedlaethol. Yn unol a pholisi'r blaid, gwrthododd yr aelodau gymeryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn hytrach, ar 21 Ionawr 1919, cyfarfu 30 o aelodau seneddol Sinn Féin (roedd y rhan fwyaf o'r gweddill wedi eu carcharu) yn Nulyn a chyhoeddi eu hunain yn senedd Iwerddon - Dáil Éireann. Arweiniodd hyn at ryfel annibyniaeth Iwerddon a sefydlu gwladwriaeth annibynnol Iwerddon.

Yn y cyfnod modern, mae'r enw'n cyfeirio fel rheol at y blaid a grewyd yn 1970 o ganlyniad i hollt yn y mudiad gweriniaethol yn Iwerddon. Yr arweinydd presennol yw Gerry Adams. Sinn Féin yw'r fwyaf o'r pleidiau cenedlaethol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, gyda 28 sedd allan o 108. Mae gan y blaid 5 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin, ond ei pholisi, fel polisi Sinn Féin gwreiddiol Arthur Griffith, yw i'r aelodau wrthod cymeryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn etholiad 2007 yng Ngweriniaeth Iwerddon, enillodd Sinn Féin 4 sedd allan o 166 yn Dáil Éireann, gostyngiad o un sedd.

Yn Senedd Ewrop, mae Sinn Féin yn aelod o'r grŵp seneddol Ewropeaidd y Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig.

Arweinwyr

Yn 1923, ffurfiodd rhan sylweddol o'r aelodaeth Cumann na nGaedheal
Yn 1926, ymddiswyddodd de Valera o Sinn Féin a sefydlu plaid Fianna Fáil
Yn 1970, ymrannodd yn ddwy blaid, y ddawy'n hawlio mai hwy oedd y gwir Sinn Féin
Yn 1986, gadawodd Ó Brádaigh a sefydlodd Sinn Féin Gweriniaethol.

Gweler hefyd

Dolenni allanol