Oes aur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: nl:Gouden eeuw (metafoor)
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: arz:عصر دهبى
Llinell 13: Llinell 13:


[[ar:عصر ذهبي]]
[[ar:عصر ذهبي]]
[[arz:عصر دهبى]]
[[cs:Zlatý věk]]
[[cs:Zlatý věk]]
[[de:Goldenes Zeitalter]]
[[de:Goldenes Zeitalter]]

Fersiwn yn ôl 05:00, 7 Mai 2010

Yr Oes aur gan Pietro da Cortona.

Yr Oes aur ym mytholeg Groeg oedd y cyfnod pan lywodraethid ar y duwiau gan y Titan Cronos, wedi iddo diorseddu ei dad, Ouranos. Daeth i ben pan ddiorseddwyd Cronos gan ei fab, Zeus, gan ddod a chyfnod y Titaniaid i ben.

Y brif ffynhonnell ar gyfer y syniad yw'r bardd Hesiod, tua'r 8fed ganrif CC. Dywed fod pedair oes wedi bod cyn yr oes bresennol. Yr oes aur oedd y gyntaf, a dilynwyd fi gan yr oes arian, yr oes efydd a'r oes haearn. Yn ystod yr oes aur, roedd heddwch, ac nid oes angen cyfraith gan fod pawb yn rhinweddol. Nid oedd henaint nag afiechyd, ac roedd y ddaear yn cynhyrchu digonedd o fwyd.

Ceir syniad tebyg mewn mytholeg Hindwaidd, a defnyddir "oes aur" am unrhyw gyfnod lle roedd lwyddiant arbennig, er enghraifft Oes Aur y Môr-Ladron.