William Butler Yeats: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
==Gwaith llenyddol== |
==Gwaith llenyddol== |
||
Er iddo ysgrifennu yn Saesneg roedd gan Yeats ddiddordeb mawr yn y [[Gwyddeleg|Wyddeleg]] a [[llên |
Er iddo ysgrifennu yn Saesneg roedd gan Yeats ddiddordeb mawr yn y [[Gwyddeleg|Wyddeleg]] a [[llên gwerin]] ei wlad. Cyhoeddodd ''Fairy and Folk Tales of the Irish Peasantry'' (1888) ac ''Irish Fairy Tales'' (1892), dwy gyfrol a ystyrir yn glasuron ar y pwnc. Roedd mytholeg, hanes a thraddodiadau Iwerddon yn ysbrydoli llawer o'i gerddi hefyd, a hynny mewn ysbryd gwlatgar. Amlygwyd ei wladgarwch yn fwy uniongyrchol mewn cerddi sy'n ymwneud â'r ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon: un o'r enwocaf o'r cerddi hynny yw ''Easter 1916'' sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau [[Gwrthryfel y Pasg]] a dienyddio [[James Connolly]], [[Pádraig Pearse]] ac eraill gan yr awdurdodau [[DU|Prydeinig]]. |
||
== Llyfryddiaeth == |
== Llyfryddiaeth == |
Fersiwn yn ôl 16:29, 5 Mai 2010
Bardd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd William Butler Yeats (13 Mehefin 1865 - 28 Ionawr 1939). Roedd yn un o'r ffigyrau amlycaf yn y Dadeni Llenyddol yn Iwerddon ar droad yr 20fed ganrif. Ystyrir ef yn un o'r beirdd pwysicaf i ysgrifennu yn Saesneg yn yr 20fed ganrif. Dyfarnwyd Gwobr Llenyddiaeth Nobel iddo yn 1923.
Bywgraffiad
Ganed Yeats yn Sandymount ger Dulyn, Iwerddon. Bu farw ar 28 Ionawr 1939 yn Roquebrune-Cap-Martin ger Nice, Monaco. Claddwyd ef ym mynwent Drumcliff, ger Sligo yn Swydd Sligo.
Gwaith llenyddol
Er iddo ysgrifennu yn Saesneg roedd gan Yeats ddiddordeb mawr yn y Wyddeleg a llên gwerin ei wlad. Cyhoeddodd Fairy and Folk Tales of the Irish Peasantry (1888) ac Irish Fairy Tales (1892), dwy gyfrol a ystyrir yn glasuron ar y pwnc. Roedd mytholeg, hanes a thraddodiadau Iwerddon yn ysbrydoli llawer o'i gerddi hefyd, a hynny mewn ysbryd gwlatgar. Amlygwyd ei wladgarwch yn fwy uniongyrchol mewn cerddi sy'n ymwneud â'r ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon: un o'r enwocaf o'r cerddi hynny yw Easter 1916 sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau Gwrthryfel y Pasg a dienyddio James Connolly, Pádraig Pearse ac eraill gan yr awdurdodau Prydeinig.
Llyfryddiaeth
- The Wanderings of Oisin and Other Poems (1889)
- The Celtic Twilight (1893)
- The Lake Isle of Innisfree (1893)
- The land of heart's desire (1894)
- The secret rose (1897)
- The Wind Among the Reeds (1899)
- Cathleen ni Houlihan (1902)
- Ideas of Good and Evil (1903)
- In the Seven Woods (1904)
- Discoveries (1907)
- Deirdre (1907)
- The green helmet (1910)
- Responsibilities (1914)
- The Wild Swans at Coole (1917)
- Four Plays for Dancers (1921)
- Four Years (1921)
- The Cat and the Moon (1924)
- A Vision (1925)
- Autobiographies (1926)
- The Tower (1928)
- The Winding Stair and Other Poems (1933)
- Collected Plays (1934)
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol