Caitlin MacNamara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: fy:Caitlin MacNamara
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: en:Caitlin Thomas
Llinell 16: Llinell 16:
[[Categori:Cymry Gwyddelig]]
[[Categori:Cymry Gwyddelig]]


[[en:Caitlin MacNamara]]
[[en:Caitlin Thomas]]
[[fy:Caitlin MacNamara]]
[[fy:Caitlin MacNamara]]

Fersiwn yn ôl 18:52, 1 Mai 2010

Roedd Caitlin Thomas, ganwyd Caitlin MacNamara (8 Rhagfyr 1913 - 31 Gorffennaf 1994) yn awdures Gymreig ac yn wraig i'r bardd a'r llenor Cymreig Dylan Thomas. Ysgrifennodd y llyfr Leftover Life to Kill.

Fe'i ganed yn Hammersmith, Llundain i Francis ac Yvonne MacNamara. Pan oedd yn 16, mynychodd ysgol ddawns. Aeth i fyw i'r Iwerddon, yn Swydd Clare, ac yna aeth i Baris.

Cyfarfu MacNarama a Thomas mewn bar yn Llundain ym 1936, a phriododd y ddau ohonynt ar 11 Gorffennaf 1937 yn Penzance, Cernyw. Cawsant dri o blant.

Pan fu farw Thomas ym 1953, symudodd MacNamara i'r Eidal, lle cyfarfu a Giuseppe Fazio ym 1957, a chawsant blentyn gyda'i gilydd.

Diwylliant cyfoes

Gwnaed dwy ffilm am MacNamara: The Edge of Love, a adwaenir yn flaenorol o dan ei enw gweithiol The Best Time of Our Lives, lle portreadir MacNamara gan Sienna Miller; a Caitlin (gyda Miranda Richardson a Rosamund Pike yn portreadu'r prif gymeriad ar adegau gwahanol o'i bywyd).

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.