Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B Robot yn ychwanegu: ms:Beltane; cosmetic changes
Llinell 3: Llinell 3:
Hen ŵyl ddechrau'r haf ydyw '''Calan Mai''' (hefyd a elwir '''Gŵyl Calan Mai''', neu '''Calan Haf''') sef [[1 Mai]]. Roedd yn ŵyl bwysig i'r [[Celtiaid]], a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd '''''Beltane''''' neu '''''Bealtaine''''', neu ''Cétshamhain'' mewn [[Gwyddeleg]]. Fel mae'r enw ''Beltane'' yn awgrymu, mae'r duw Celtaidd [[Belenos]] ([[Beli Mawr]] i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng [[Gŵyl Fair|Gŵyl y Canhwyllau]] (1 Chwefror) ac [[Alban Hefin]] (21 Mehefin). Roedd [[dawnsio haf]] a [[Codi'r Fedwen|chodi'r fedwen]] (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir [[Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr]] ar Galan Mai hefyd.

==Arferion ac arwyddocád==
== Arferion ac arwyddocád ==
Yn y [[Sanas Cormac]] dywedir fod gan y [[derwydd]]on le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.<ref>Gwyn Thomas. ''Duwiau'r Celtiaid''. Llafar Gwlad 24.</ref>

Llinell 16: Llinell 16:
* Yfid [[medd]] a [[meddyglyn]] (medd a [[perlysiau|pherlysiau]]) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a [[gwaseila]].<ref>''Welsh Folk Customs''</ref>
* Yfid [[medd]] a [[meddyglyn]] (medd a [[perlysiau|pherlysiau]]) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a [[gwaseila]].<ref>''Welsh Folk Customs''</ref>

==Neo-baganiaeth==
== Neo-baganiaeth ==
Mae'n un o'r gwyliau [[Wica]] ac fe'i dethlir gan [[neo-baganiaeth|neo-baganiaid]] eraill hefyd.
Mae'n un o'r gwyliau [[Wica]] ac fe'i dethlir gan [[neo-baganiaeth|neo-baganiaid]] eraill hefyd.

==Gwleidyddiaeth==
== Gwleidyddiaeth ==
[[Delwedd:1989 CPA 6059.jpg|250px|bawd|Stamp [[Rwsia]]idd i ddathlu canmlynedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr.]]
[[Delwedd:1989 CPA 6059.jpg|250px|bawd|Stamp [[Rwsia]]idd i ddathlu canmlynedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr.]]
Dethlir [[Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr]] ar y 1af o Fai. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889.
Dethlir [[Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr]] ar y 1af o Fai. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889.
Llinell 25: Llinell 25:
Yn yr hen [[Undeb Sofietaidd]] a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd fel diwrnod o ddathlu a/neu brotest.

==Gweler hefyd:==
== Gweler hefyd: ==
* [[Alban Arthan]]
* [[Alban Arthan]]
* [[Alban Eilir]]
* [[Alban Eilir]]
Llinell 60: Llinell 60:
[[it:Beltane]]
[[it:Beltane]]
[[lt:Beltane]]
[[lt:Beltane]]
[[ms:Beltane]]
[[nl:Beltane]]
[[nl:Beltane]]
[[nn:Beltane]]
[[nn:Beltane]]

Fersiwn yn ôl 16:17, 1 Mai 2010

Y Fedwen Fai neu'r Fedwen Haf
Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, Pennsylvania

Hen ŵyl ddechrau'r haf ydyw Calan Mai (hefyd a elwir Gŵyl Calan Mai, neu Calan Haf) sef 1 Mai. Roedd yn ŵyl bwysig i'r Celtiaid, a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd Beltane neu Bealtaine, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Fel mae'r enw Beltane yn awgrymu, mae'r duw Celtaidd Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng Gŵyl y Canhwyllau (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Roedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd.

Arferion ac arwyddocád

Yn y Sanas Cormac dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.[1]

Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.[2]

Yn ôl y Mabinogi, arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.

Traddodiadau Cymreig

  • Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.[3]
  • Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.[4]
  • Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.[5]
  • Yfid medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a gwaseila.[6]

Neo-baganiaeth

Mae'n un o'r gwyliau Wica ac fe'i dethlir gan neo-baganiaid eraill hefyd.

Gwleidyddiaeth

Stamp Rwsiaidd i ddathlu canmlynedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr.

Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar y 1af o Fai. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889.

Yn yr hen Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd fel diwrnod o ddathlu a/neu brotest.

Gweler hefyd:

Cyfeiriadau

  1. Gwyn Thomas. Duwiau'r Celtiaid. Llafar Gwlad 24.
  2. Duwiau'r Celtiaid
  3. Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.
  4. Welsh Folk Customs
  5. Welsh Folk Customs
  6. Welsh Folk Customs