C.P.D. Tref Prestatyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Dolen allanol: cat |
B robot yn ychwanegu: fr:Prestatyn Town Football Club |
||
Llinell 32: | Llinell 32: | ||
[[bg:ФК Престатин Таун]] |
[[bg:ФК Престатин Таун]] |
||
[[en:Prestatyn Town F.C.]] |
[[en:Prestatyn Town F.C.]] |
||
[[fr:Prestatyn Town Football Club]] |
|||
[[it:Prestatyn Town Football Club]] |
[[it:Prestatyn Town Football Club]] |
||
[[lt:Prestatyn Town FC]] |
[[lt:Prestatyn Town FC]] |
Fersiwn yn ôl 17:04, 30 Ebrill 2010
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref Prestatyn | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | The Seasiders | ||
Sefydlwyd | 1946 | ||
Maes | Ffordd Bastion | ||
Rheolwr | Neil Gibson | ||
Cynghrair | Cynghrair Cymru | ||
2008-2009 | 15fed | ||
|
Clwb pêl-droed ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych yw Clwb Pêl-droed Tref Prestatyn. Cafodd y clwb ei ddyrchafu i Uwch Gynghrair Principality ar ddiwedd tymor 2008–2009. Enillodd y clwb y Gynghrair Undebol yn 2007/2008 mewn steil, gan orffen gyda 15 yn fwy o bwyntiau na'u gwrthwynebwyr agosaf sef y Bala - y bwlch mwyaf rhwng cyntaf ac ail ers dyrchafiad C.P.D. Porthmadog yn 2002/2003.
Roedd hwn yn llwyddiant eithriadol i'r clwb yn eu hail dymor yn y Gynghrair Undebol. Er mwyn sicrhau dyrchafiad, gweithiodd criw o wirfoddolwyr bron yn ddi-dor ym Mis Mai 2008 i sicrhau fod eu cyfleusterau'n cyrraedd y safon disgwyliedig. Roedd y gwelliannau hyn yn cynnwys gosod llif-oleuadau, cynyddu'r nifer o seddi a gosod lloc i'r wasg. Mae'r gwaith hwn wedi dod â theimlad cymunedol i'r clwb sydd wedi'i adlewyrchu yn y dorf - ers iddynt gael eu dyrchafu.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o glybiau Cynghrair Cymru eraill y Gogledd-ddwyrain, polisi'r clwb yw rhoi cyfle i chwaraewyr lleol. Mae mwyafrif llethol o'r garfan yn Gymry - nifer fawr ohonynt yn dod o'r dref ei hun.
Dolen allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022 | ||
---|---|---|
Aberystwyth |
Caernarfon |
Cei Connah |
Derwyddon Cefn |
Hwlffordd |
Met Caerdydd | |