Teyrnas Navarra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lt:Navaros karalystė
B robot yn ychwanegu: zh:納瓦拉王國
Llinell 44: Llinell 44:
[[th:ราชอาณาจักรนาวาร์]]
[[th:ราชอาณาจักรนาวาร์]]
[[uk:Королівство Наварра]]
[[uk:Королівство Наварра]]
[[zh:納瓦拉王國]]

Fersiwn yn ôl 10:44, 28 Ebrill 2010

Teyrnas Pamplona (melyn) dan Sancho yr Hynaf 1029-1035

Teyrnas yn rhan orllewinol y Pyreneau, yn cyfateb yn fras i diriogaethau hanesyddol Gwlad y Basg (Euskal Herria) oedd Teyrnas Navarra (Basgeg: Nafarroako Erresuma, Sbaeneg: Reino de Navarra). Datblygodd o Deyrnas Pamplona, a sefydlwyd yn 824 gan ei brenin cyntaf, Íñigo Arista.

Ar un adeg, ymestynnai'r deyrnas tu hwnt i Afon Ebro. Sefydlwyd y prifddinasoedd Basgaidd, Vitoria-Gasteiz a Donostia gan Sancho VI, brenin Navarra (Sancho y Doeth).

Parhaodd y deyrnas hyd ddechrau'r 16eg ganrif, pan oresgynnwyd y deyrnas gan Castilla ac Aragón yn 1512, i ddod yn rhan o Sbaen unedig. Ychydig yn ddiweddarach, daeth rhan ogleddol Navarra, Navarra Isaf, yn annibynnol ar Sbaen, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Ffrainc.