Afon Mamoré: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|250px|Afon Mamoré Afon yn Ne America sy'n llifo i mewn i afon Madeira, sy'n un o ledne...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:29, 26 Ebrill 2010

Delwedd:Río Mamoré - Beni - Bolivia.jpg
Afon Mamoré

Afon yn Ne America sy'n llifo i mewn i afon Madeira, sy'n un o lednentydd afon Amazonas yw afon Mamoré. Mae afon Mamoré ac afon Beni yn cyfarfod i'r dwyrain o Nova Mamoré i ffurfio afon Madeira.

Ceir tarddiad afon Mamoré ar lethrau gogleddol y Sierra de Cochabamba, i'r dwyrain o ddinas Cochabamba, Bolifia, dan yr enw afon Chimoré. Ger Puerto Villaroel mae'r afon yma yn uno ag Ichilo, sydd yn fuan wedyn yn ymuno ag afon Chapare i ffurfio afon Mamoré. Rhyw 20 km yn nes ymlaen, mae'r fwyaf o'i llednentydd, y Río Grande, yn ymuno a hi.

Afon Mamoré o fewn dalgylch afon Amazonas