Gwaed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: so:Dhiig
ArthurBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: new:हि
Llinell 96: Llinell 96:
[[nah:Eztli]]
[[nah:Eztli]]
[[nds:Blood]]
[[nds:Blood]]
[[new:हि]]
[[nl:Bloed]]
[[nl:Bloed]]
[[nn:Blod]]
[[nn:Blod]]

Fersiwn yn ôl 10:47, 24 Ebrill 2010

Celloedd coch y gwaed

Mae gwaed yn hylif coch sy'n cylchredeg yng ngwythiennau, rhydweliau a chalon bodau dynol a fertebratau eraill. Mae'n cynnwys plasma, celloedd coch a chelloedd gwyn. Dyma'r prif system drafnidiaeth o fewn y corff, sy'n darparu ocsigen i holl organau a chelloedd y corff.

Swydd y celloedd coch yw cludo ocsigen o amgylch y corff i roi egni i'r cyhyrau. Celloedd coch yw'r unig rhai yn y corff sydd ddim yn cynnwys cnewyllyn. Swydd y celloedd gwyn yw ymladd heintiau a saldra sy'n ceisio ymosod ar y corff. Mae plasma yn gyfrifol am gludo carbon deuocsid.

Mae nifer o dermau meddygol yn dechrau gyda hemo- neu hemato- yn dod o'r gair Groeg am waed - haemato.

Caiff gwaed ei bwmpio trwy'r corff gan y galon. Mae rhwng pedwar a hanner i bump litr o waed yng nghorff dyn cyffredin.



Gwaed capilari, sy'n llifo o anafiad, gyda lliw coch llachar
Gwaed gwythïen, wedi'i hel yn ystod rhoi gwaed, yn dangos ei liw coch tywyll

Lliw

Mae lliw y gwaed dynol yn dibynnu ar faint o ocsigen a gynhwysir ynddo, oherwydd bod hyn yn effeithio ar gyflwr ocsideiddio yr atomau haearn yn yr hemoglobin – ac mae hyn yn dibynnu ar le'r gwaed yn y system gylchredol. Yn y rhydweliau a'r capilarïau, mae lefelau o osigen yn uchel ac mae'r gwaed yn goch llachar. Yn y gwythiennau, mae'r gwaed yn cynnwys llai o ocsigen, ac mae ei liw yn goch tywyll.

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol