Catalwnia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen WD
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
: ''Mae'r erthygl yma yn trafod gwlad a gyhoeddodd ei hannibyniaeth ar 27 Hydref 2017, (tir dadleuol) ac a ffurfiodd [[Gweriniaeth Catalwnia (2017)|Weriniaeth Catalwnia (2017)]]. Am y dywysogaeth hanesyddol, gweler [[Tywysogaeth Catalwnia]].''
: ''Mae'r erthygl yma yn trafod gwlad a gyhoeddodd ei hannibyniaeth ar 27 Hydref 2017, (tir dadleuol) ac a ffurfiodd [[Gweriniaeth Catalwnia (2017)|Weriniaeth Catalwnia (2017)]]. Am y dywysogaeth hanesyddol, gweler [[Tywysogaeth Catalwnia]].''
{{Gwybodlen lle | math_o_le = Gwlad | enw_brodorol = '''''Catalunya''''' | suppressfields= image1 logo | map lleoliad = [[File:Cataluna in Spain (plus Canarias).svg|270px]] | banergwlad = [[File:Flag of Catalonia.svg|170px]] }}
{{Gwybodlen lle | math_o_le = Gwlad | enw_brodorol = '''''Catalunya''''' | suppressfields= image1 logo | map lleoliad = [[File:Cataluna in Spain (plus Canarias).svg|270px]] | banergwlad = [[File:Flag of Catalonia.svg|170px]] }}

{{Infobox settlement
| name = Catalwnia
Catalunya [[Catalaneg]]
''Catalonha'' [[Ocsitaneg]]
| native_name =
| official_name =
| settlement_type = Gwlad annibynol
ers 27 Hydref 2017
| image_flag = Flag of Catalonia.svg
| flag_size = 125px
| flag_alt = Senyera
| image_shield = Coat of Arms of Catalonia.svg
| shield_size = 60px
| shield_alt = Arfbais Catalwnia
| motto =
| anthem = ''[[Els Segadors]]''
{{small|"Y Cynaeafwyr"}}
| image_map = [[Delwedd:Cataluna in Spain (plus Canarias).svg|275px|Map o Gatalonia]]
| mapsize =
| map_alt =
| map_caption = Lleoliad Catalwnia o fewn [[Penrhyn Iberia]]
| latd=41 |latm=49 |lats= |latNS=N |longd=1 |longm=28 |longs= |longEW=E
| coor_pinpoint =
| coordinates_type = region:ES-CT_type:adm1st
| coordinates_display = inline,title
| subdivision_type = [[Gwlad sofran]]
| subdivision_name = [[Sbaen]]
| established_title = Hanes Catalwnia
| established_date = 988 (''de facto'')
1137 ([[Coron Aragón|Undeb gydag Aragon]])
1716 ([[Decrets de Nova Planta|Nova Planta]])
| established_title1 = [[Ystatud Ymreolaeth Catalwnia|Ystatud Ymreolaethol]]
| established_date1 = 9 Medi 1932
18 Medi 1979
9 Awst 2006 (cyfredol)
| established_title2 =
| established_date2 =
| seat_type = Prifddinas
| seat = [[Barcelona]]
{{Coord|41|23|N|2|11|E}}
| parts_type = Taleithiau
| parts_style = para
| p1 = [[Talaith Barcelona|Barcelona]]
| p2 = [[Talaith Girona|Girona]]
| p3 = [[Talaith Lleida|Lleida]]
| p4 = [[Talaith Tarragona|Tarragona]]
| government_type = Gwlad annibynol
Cyn 27 Hydref 2017: Llywodraeth ddatganoledig o fewn brenhiniaeth gyfansoddiadol
| governing_body = ''[[Generalitat de Catalunya]]''
| government_footnotes =
| leader_title = [[Arlywyddion Catalwnia|Arlywydd]]
| leader_name = [[Carles Puigdemont i Casamajó]]
| leader_party = [[Junts pel Sí|JxSí]]
| leader_title1 = Deddfwrfa
| leader_name1 = [[Llywodraeth Catalwnia|Llywodraeth]]
| area_total_km2 = 32108
| area_footnotes = <ref name=idescat-area>{{cite web|url=http://www.idescat.cat/pub/?id=inddt&n=396&lang=en|title=Indicadors geogràfics. Superfície, densitat i entitats de població: Catalunya|publisher=Sefydliad Ystadegaeth Catalwnia|accessdate=2015-11-23}}</ref>
| area_land_km2 = | area_water_km2 = | area_water_percent =
| population_as_of = 2016
| population_total = 7,522,596
| population_note =
| population_blank1_title = Safle
| population_blank1 = Ail (16% o Sbaen)
| population_density_km2 = auto
| population_demonym =
| population_footnotes =
| demographics_type1 = [[CMC]] (nominal)
| demographics1_title1 = Cyfanswm
| demographics1_info1 = $255.204 biliwn (2012)
| demographics1_title2 = Y pen
| demographics1_info2 = $33,580 (2012)<ref name=SpainRef>[http://www.ine.es/prensa/np695.pdf National Statistics Office] (Spain's GDP and GRP), [http://www.ine.es/daco/daco42/cre00/b2008/c13m_cre.xls National Statistics Office]. Niferoedd CMC ar gyfer y Cymunedau Ymreolaethol a Rhanbarthau Sbaen 2008-2012.</ref>
| timezone = [[CET]]
| utc_offset = +1
| timezone1_DST = [[CEST]]
| utc_offset1_DST = +2
| postal_code_type =
| postal_code =
| area_code_type = Côd
| area_code = +34 93 (Barcelona)
+34 97- (gweddill Catalwnia)
| iso_code = ES-CT
| blank_name_sec1 = Ieithoedd swyddogol
| blank_info_sec1 = [[Catalaneg]], [[Sbaeneg]], [[Ocsitaneg]] ([[Araneg]])
| blank1_name_sec1 = [[GeoTLD|Internet TLD]]
| blank1_info_sec1 = [[.cat]]
| blank2_name_sec1 = [[Nawddsant]]
| blank2_info_sec1 = [[Siôr (sant)|Sant Siôr]], [[Morwyn Montserrat]]

| blank_name_sec2 = [[Llywodraeth Catalonia]]
| blank_info_sec2 = 135 dirprwy
| blank1_name_sec2 = [[Cynghrair Dirprwyon Sbaen]]
| blank1_info_sec2 = 47 dirprwy (o 350)
| blank2_name_sec2 = [[Senedd Sbaen]]
| blank2_info_sec2 = 16 seneddwr (o 264)
| website = [http://web.gencat.cat/en/ Generalitat of Catalonia]
| footnotes =

Mae '''Catalwnia''' ([[Catalaneg]]: ''Catalunya'', [[Ocsitaneg|Araneg]]: ''Catalonha'' [[Sbaeneg]]: ''Cataluña'') yn wlad [[Ewrop|Ewropeaidd]] a gyhoeddodd ddatganiad o annibyniaeth ar [[27 Hydref]] [[2017]]. Mewn pleidlais ar ar y diwrnod hwnnw, oherwydd bygythiadau treisgar [[Llywodraeth Sbaen]], cyhoeddodd [[Llywodraeth Catalwnia]] ei bod yn sefydlu [[Gweriniaeth Catalwnia (2017)|Gweriniaeth Catalwnia]] o 70 pleidlais i 10. Tan hynny bu'n cael ei chyfri gan [[Sbaen]] a rhai gwledydd eraill fel un o [[Cymunedau ymreolaethol Sbaen|gymunedau ymreolaethol Sbaen]]. Mae Catalwnia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â [[Ffrainc]] ac [[Andorra]] i'r gogledd, â [[Môr y Canoldir]] yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol [[Aragón]] yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalwnia.
Mae '''Catalwnia''' ([[Catalaneg]]: ''Catalunya'', [[Ocsitaneg|Araneg]]: ''Catalonha'' [[Sbaeneg]]: ''Cataluña'') yn wlad [[Ewrop|Ewropeaidd]] a gyhoeddodd ddatganiad o annibyniaeth ar [[27 Hydref]] [[2017]]. Mewn pleidlais ar ar y diwrnod hwnnw, oherwydd bygythiadau treisgar [[Llywodraeth Sbaen]], cyhoeddodd [[Llywodraeth Catalwnia]] ei bod yn sefydlu [[Gweriniaeth Catalwnia (2017)|Gweriniaeth Catalwnia]] o 70 pleidlais i 10. Tan hynny bu'n cael ei chyfri gan [[Sbaen]] a rhai gwledydd eraill fel un o [[Cymunedau ymreolaethol Sbaen|gymunedau ymreolaethol Sbaen]]. Mae Catalwnia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â [[Ffrainc]] ac [[Andorra]] i'r gogledd, â [[Môr y Canoldir]] yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol [[Aragón]] yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalwnia.

Fersiwn yn ôl 11:11, 16 Mawrth 2019

Mae'r erthygl yma yn trafod gwlad a gyhoeddodd ei hannibyniaeth ar 27 Hydref 2017, (tir dadleuol) ac a ffurfiodd Weriniaeth Catalwnia (2017). Am y dywysogaeth hanesyddol, gweler Tywysogaeth Catalwnia.
Catalwnia
Catalunya
MathGwlad
Enwyd ar ôlY Catalwniaid Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Fabricio Cardenas (Culex)-Catalogne.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasBarcelona Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,747,709 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
• 988 (Catalan counties) Edit this on Wikidata
AnthemEls Segadors Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPere Aragonès i Garcia Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
NawddsantSiôr, Morwyn Montserrat Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
Catalaneg, Sbaeneg, Ocsitaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPaïsos Catalans, Pyreneau'r Canoldir Edit this on Wikidata
SirSbaen Edit this on Wikidata
GwladSbaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd31,895 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOcsitania, Aragón, Valencia, Andorra, Encamp, Escaldes-Engordany, Sant Julià de Lòria, Andorra la Vella, La Massana Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.8375°N 1.5378°E Edit this on Wikidata
ES-CT Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Catalwnia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholLlywodraeth Catalwnia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
Arlywyddion Catalwnia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPere Aragonès i Garcia Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)238.3 million € Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith11.7 %, 13.23 % Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.904 Edit this on Wikidata

Mae Catalwnia (Catalaneg: Catalunya, Araneg: Catalonha Sbaeneg: Cataluña) yn wlad Ewropeaidd a gyhoeddodd ddatganiad o annibyniaeth ar 27 Hydref 2017. Mewn pleidlais ar ar y diwrnod hwnnw, oherwydd bygythiadau treisgar Llywodraeth Sbaen, cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia ei bod yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia o 70 pleidlais i 10. Tan hynny bu'n cael ei chyfri gan Sbaen a rhai gwledydd eraill fel un o gymunedau ymreolaethol Sbaen. Mae Catalwnia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â Ffrainc ac Andorra i'r gogledd, â Môr y Canoldir yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol Aragón yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalwnia.

Rhennir Catalwnia yn bedair talaith:

Enwyd y taleithiau hyn ar ôl y dinasoedd: Barcelona, Girona, Lleida a Tarragona.

Yn Nhachwedd 2014 cynhaliodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm Catalwnia 2014, yn groes i orchymyn gan Lywodraeth Sbaen; pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 27 Medi 2015, cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015, ble gwelwyd y pleidiau a oedd o blaid annibyniaeth yn uno gyda'i gilydd. Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 a gynhaliwyd gan Gyngor Arbennig Catalwnia (yr Consell Executiu), er i Lywodraeth Sbaen fynegi fod cynnal y refferendwm yn anhyfreithiol. Oherwydd hyn, symudwyd rhai miloedd o heddlu Sbaen i Gatalwnia i geisio atal y broses.

Cynhelir diwrnod Catalwnia, sef La Diada flynyddol ar 11 Medi,[1] a gwnaed hynny ers 'Y Cyrch ar Farcelona' yn 1714. Mae'n ddiwrnod o ddathiad bodolaeth y gymuned ymreolaethol, ond hefyd yn atgoffa pobl i'r y gymuned ymreolaethol golli eu system ddeddfau wedi'r cyrch hwnnw.

Hanes

Yn 1164, casglodd Alfonso II, brenin Aragón deyrnas Aragón, Tywysogaeth Catalwnia, Terynas Mallorca, Teyrnas Valencia, Teyrnas Sicilia, Corsica a thiriogaethau eraill dan un goron. Yn 1289 yn y Corts de Monçó enwyd y tiriogaethau fel Corona d'Aragó i de Catalunya, a dalfyrrwyd yn ddiweddarach i Corona d'Aragó, Coron Aragón.

Baneri

Y faner swyddogol yw'r La Senyera, a chaiff ei ddefnyddio hefyd ar faner Aragón, yr Ynysoedd Balearig, Valencia a dinas Alghero yn Sardinia; fe'i ceir hefyd ar arfbais y Pyrénées-Orientales, Provence-Alpes-Côte d'Azur, baner Roussillon, Capcir, Vallespir, Provence yn Ffrainc ac ar arfbais Andorra. Ar un cyfnod, deuai'r mannau hyn i gyd o dan reolaeth Coron Aragón a Iarll Barcelona a heddiw mae'r Gatalaneg wedi goroesi yma a gelwir hwy yn Països Catalans (gwledydd Catalan).

Dywedir i'r faner gael ei chreu ar ddechrau brwydr yn erbyn y Mwriaid dan eu harweinydd Lobo ibn Mohammed, pan anafwyd Carles el Calb yn ddifrifol. Gwlychodd Iarll Barcelona, Guifré el Pilós, ei fysedd yng ngwaed Carles, a'u llusgo ar hyd ei darian felen. Cododd y darian yn uchel ac arweiniodd fyddin y Catalwniaid i fuddugoliaeth. Ers hynny, caiff ei hadnabod fel Els Quatre Dits de Sang, y pedwar byd gwaedlyd.

Addasiad o'r faner yw'r Estelada (enw llawn: Senyera Estelada), sef y faner serenog. Fel arfer, ceir seren wen ar gefndir glas ac weithiau ceir seren goch ar gefndir melyn. Fe'i defnyddir gan gefnodgwyr y mudiad dros annibyniaeth Catalwnia oddi wrth Sbaen. Fe'i hysbrydolwyd gan y sêr ar faner Cwba a Puerto Rico, a'u brwydr hwy dros annibyniaeth oddi wrth Sbaen yn 1902 ac 1898. Fe'i lluniwyd gan Vicenç Albert Ballester, ac fe'i defnyddiwyd hi gyntaf mewn pamffled a gyhoeddwyd ar ddiwrnod cenedlaethol y genedl, sef y Diada, yn 1918.

Annibyniaeth

Yn Nhachwedd 2014 cynhaliwyd Refferendwm Catalwnia 2014, a phleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 15 Ionawr cyhoeddodd Llywydd y wlad, Artur Mas, ei fod yn galw etholiad ar 27 Medi 2015.[2] Canlyniad y bleidlais oedd i dros 68 o'r seddi allan o gyfanswm o 135 gael eu llenwi gan gynrychiolwyr a oedd o blaid annibyniaeth.[3]

Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 a gynhaliwyd gan Gyngor Arbennig Catalwnia (yr Consell Executiu), er i Lywodraeth Sbaen fynegi fod cynnal y refferendwm yn anhyfreithiol. Oherwydd hyn, symudwyd rhai miloedd o heddlu Sbaen i Gatalwnia i geisio atal y broses. Ar 27 Hydref, er gwaethaf bygythiadau gan Sbaen, pleidleisiodd Llywodraeth Catalwnia dros wneud datganiad o annibyniaeth. O fewn hanner awr, cyhoeddodd Sbaen y byddent yn gwneud popeth i gesio 'dychwelyd' Catalwnia yn ôl i'w corlan, fel cymuned ymreolaethol. “Rwy’n llongyfarch pobl Catalwnia ar ennill eu hannibyniaeth trwy ddulliau heddychlon a democrataidd,” meddai Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru.

Ieithoedd

Ceir tair iaith swyddogol yng Nghatalwnia: Catalaneg, Sbaeneg ac Araneg, a siaredir yn Val d'Aran yn y gogledd-orllewin. Mae canran uchel ym medru Catalaneg:

Catalaneg
Yn medru Nifer Canran
Deall 5.872.202 94,5%
Siarad 4.630.640 74,5%
Darllen 4.621.404 74,4%
Ysgrifennu 3.093.223 49,8%
Cyfanswm 6.215.281 100%

Un o awduron mwyaf nodedig y Gatalaneg yw Joan Oliver i Sallarès, dramodydd a bardd.

Chwaraeon

Er bod gan y wlad ei thîm pêl-droed cenedlaethol, nid oes gan Catalwnia statws fel gwlad bêl-droed gydnabyddiaedig yng ngolwg UEFA na FIFA. Serch hynny ceir ymgyrch i ennill statws swyddogol i'r tîm, a thrwy hynny i'r wlad.

Gweler hefyd

Astudiaeth feirniadol o dair gwlad - Québec, Catalunya a Chymru: Cerddi Alltudiaeth, gan Paul W. Birt (1997)

Cyfeiriadau

1. barcelonas.com; adalwyd 29 Awst 2017.
2. "Mas announces an agreement with ERC and will call a snap election for 27 September 2015 " (yn Sbaeneg). El País. 2015-01-14. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
3. www.theguardian.com adalwyd 2015