Gwireb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Gosodiad yn cynnwys gwir cyffredinol, wedi'i fynegi'n gwta, yw '''gwireb'''. Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r [[dihareb|ddihareb]] ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb. Gwahaniaeth arall rhwng y wireb a'r ddihareb yw bod y wireb yn greadigaeth ymwybodol lenyddol gan amlaf tra bod y ddihareb, fel rheol, yn tarddu o'r diwylliant poblogaidd. Ond gellir cymhwyso'r term 'gwireb' i gynnwys unrhyw osodiad o'r gwir cyffredinol, mewn unrhyw faes.
Gosodiad yn cynnwys gwir cyffredinol, wedi'i fynegi'n gwta, yw '''gwireb'''. Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r [[dihareb|ddihareb]] ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb. Gwahaniaeth arall rhwng y wireb a'r ddihareb yw bod y wireb yn greadigaeth ymwybodol lenyddol gan amlaf tra bod y ddihareb, fel rheol, yn tarddu o'r diwylliant poblogaidd. Ond gellir cymhwyso'r term 'gwireb' i gynnwys unrhyw osodiad o'r gwir cyffredinol, mewn unrhyw faes.


Fel y diarebion, mae gan y wireb hanes hir mewn [[llenyddiaeth]]. Gelwir barddoniaeth sy'n cynnwys elfen amlwg o wireb yn 'canu gwirebol'. Roedd y ''genre'' yma o ganu yn boblogaidd yn yr [[Oesoedd Canol]] ac fe'i ceir gyda chanu natur yn aml. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw ''[[Englynion y Clyweit]]'' ('Englynion y Clywaid'), casgliad o [[englyn]]ion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12fed ganrif neu ddechrau'r 13eg, yn ôl [[Ifor Williams]]. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r casgliad o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':
Fel y diarebion, mae gan y wireb hanes hir mewn [[llenyddiaeth]]. Gelwir barddoniaeth sy'n cynnwys elfen amlwg o wireb yn 'canu gwirebol'. Roedd y ''genre'' yma o ganu yn boblogaidd yn yr [[Oesoedd Canol]] ac fe'i ceir gyda chanu natur yn aml. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw ''[[Englynion y Clyweit]]'' ('Englynion y Clywaid'), casgliad o [[englyn]]ion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12fed ganrif neu ddechrau'r 13eg, yn ôl [[Ifor Williams]]. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r cyfresi o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':


:Eiry mynydd, gorwyn bro,
:Eiry mynydd, gorwyn bro,

Fersiwn yn ôl 19:50, 19 Ebrill 2010

Gosodiad yn cynnwys gwir cyffredinol, wedi'i fynegi'n gwta, yw gwireb. Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r ddihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb. Gwahaniaeth arall rhwng y wireb a'r ddihareb yw bod y wireb yn greadigaeth ymwybodol lenyddol gan amlaf tra bod y ddihareb, fel rheol, yn tarddu o'r diwylliant poblogaidd. Ond gellir cymhwyso'r term 'gwireb' i gynnwys unrhyw osodiad o'r gwir cyffredinol, mewn unrhyw faes.

Fel y diarebion, mae gan y wireb hanes hir mewn llenyddiaeth. Gelwir barddoniaeth sy'n cynnwys elfen amlwg o wireb yn 'canu gwirebol'. Roedd y genre yma o ganu yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol ac fe'i ceir gyda chanu natur yn aml. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw Englynion y Clyweit ('Englynion y Clywaid'), casgliad o englynion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12fed ganrif neu ddechrau'r 13eg, yn ôl Ifor Williams. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r cyfresi o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':

Eiry mynydd, gorwyn bro,
Dedwydd pawb wrth a'i llocho;
Creawdr Nef a'th diango.[1]

Mae canu natur yn elfen amlwg yn y canu gwirebol hefyd. Elfen amlwg arall yw'r elfen o brofiad dynol. Dyma ran o gyfres hir a adnabyddir fel 'Y Gnodau' am fod pob llinell bron yn dechrau gyda'r ffurf ferfol gnawd ('arferol yw'):

Gnawd gwynt o'r gogledd; gnawd rhianedd chweg;
Gnawd gŵr teg yng Ngwynedd;
Gnawd i dëyrn arlwy gwledd;
Gnawd gwedi llyn lledfrydedd.[2]

Cyfeiriadau

  1. Marged Haycpck (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Cyhoeddiadau Barddas, 1994), tud. 341.
  2. Dyfynnir gan Gwyn Thomas yn Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976), tud. 101. Nodiadau: Chweg = 'teg', llyn = 'diod (gadarn)', lledfrydedd = 'tristwch'.