Ffordd dyrpeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fi:Maksullinen tie
Llinell 17: Llinell 17:
[[es:Peaje]]
[[es:Peaje]]
[[ext:Peagi]]
[[ext:Peagi]]
[[fi:Maksullinen tie]]
[[fr:Péage]]
[[fr:Péage]]
[[gl:Peaxe]]
[[gl:Peaxe]]

Fersiwn yn ôl 11:42, 19 Ebrill 2010

Tolldy ar hen ffordd dyrpeg yn Aberaeron.

Ffordd dyrpeg (o'r Saesneg Turnpike) yw'r term am ffordd lle mae rhaid talu am fynd a cherbydau arni.

Adeiladwyd nifer fawr o'r rhain yng Nghymru yn ystod y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus yw Ffordd Caergybi (yn awr priffordd yr A5), a adeiladwyd gan Thomas Telford yn nechrau'r 19eg ganrif. Gwrthryfel y werin yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg oedd Helyntion Beca, a barodd o 1839 hyd 1844.

Ychydig o esiamplau o'r math yma o ffordd a geir yng Nghymru bellach, ag eithio lle codir tâl am ddefnyddio pontydd, megis Pont Hafren. Codir tâl am ddefnyddio traffyrdd mewn nifer fawr o wledydd. Adeiledir rhai o'r rhain gan gwmnïau preifat, sy'n gobeithio gwneud elw o'r tollau; adeiledir eraill gan y llywodraeth.