Edwin ap Hywel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot Ychwanegu: ca:Edwin ap Hywel
B robot yn ychwanegu: ru:Эдвин ап Хивел
Llinell 31: Llinell 31:
[[ca:Edwin ap Hywel]]
[[ca:Edwin ap Hywel]]
[[en:Edwin ap Hywel]]
[[en:Edwin ap Hywel]]
[[ru:Эдвин ап Хивел]]

Fersiwn yn ôl 17:56, 16 Ebrill 2010

Cyd-frenin Deheubarth oedd Edwin ap Hywel (bu farw 954).

Roedd Rhodri yn fab i Hywel Dda, ac efallai fod y ffaith i Edwin gael enw Eingl-Sacsonaidd yn adlewyrchiad o bolisi gwleidyddol ei dad. Ar farwolaeth Hywel yn 950, rhannwyd ei deyrnas rhwng Edwin a'i ddau frawd, Rhodri ac Owain. Ni lwyddodd y llinach i gadw eu gafael ar Wynedd oedd wedi bod yn rhan o deyrnas eu tad ers 942. Gallodd meibion Idwal Foel, Iago ab Idwal ac Ieuaf ab Idwal, gipio grym yno.

Yn 952 ymosododd Iago ac Ieuaf ar Ddeheubarth, gan gyrraedd cyn belled a Dyfed. Y flwyddyn wedyn, arweiniodd meibion Hywel gyrch yn erbyn y gogledd, gan gyrraedd cyn belled a Dyffryn Conwy cyn cael eu gorchfygu mewn brwydr ger Llanrwst a'u gorfodi i ddychwelyd i Geredigion.

Bu farw Rhodri yn 953 ac yna Edwin ei hun yn 954, gan adael Owain ap Hywel yn frenin Deheubarth.


Llyfryddiaeth


O'i flaen :
Hywel Dda
Teyrnoedd Deheubarth
Edwin ap Hywel
950-954
Olynydd :
Owain ap Hywel