Yr Eglwys Gatholig Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
BDim crynodeb golygu
B Symudwyd y dudalen Yr Eglwys Gatholig i Yr Eglwys Gatholig Rufeinig gan Adda'r Yw dros y ddolen ailgyfeirio: enw llawn am y brif erthygl a'r prif gategori, enw byr am isgategorïau ac erthyglau eraill
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 00:38, 11 Mawrth 2019

Allweddi Sant Pedr, symbol o'r Babaeth

Yr Eglwys Gatholig (neu yr Eglwys Gatholig Rufeinig) yw'r enwad Cristionogol fwyaf yn y byd, gyda thros biliwn o aelodau yn perthyn iddi. Mae'n cael ei harwain gan y Pab, sef Esgob Rhufain. Yn Rhufain mae pencadlys yr Enwad fyd-eang, y Fatican, ac oddi yno y caiff ei rheoli.

Hanes

Yn ôl y traddodiad sefydlwyd yr Eglwys gan yr Iesu ei hun, pan newidiodd enw Simon i Pedr, a dywedodd taw ar y graig hon fyddai ef yn sefydlu ei Eglwys. Yn ystod y 4g O.C., daeth Cristnogaeth yn brif grefydd yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn sgil cwymp yr ymerodraeth a'r Oesoedd Canol cynnar, anfonodd yr Eglwys Gatholig nifer fawr o genhadon i Ewrop a thramor. Ond wedi troad y mileniwm cododd ffrae rhwng rannau gorllewinol a dwyreiniol yr Ymerodraeth, ac felly datblygodd ddwy ran i'r Eglwys, a ffurfiwyd yr Eglwys Uniongred o'r rhan ddwyreiniol. Llewyrchai'r Eglwys yn ystod yr Oesoedd Canol.

Yn yr 16g digwyddodd; y diwygiad Protestannaidd, y Chwil-lys, trafferthion gyda brenin Lloegr ac wedyn y gwrth-ddiwygiad.

Yna bu bron pedair canrif drafferthus i'r Eglwys wrth iddi frwydro yn erbyn Protestaniaeth. Gorffennodd hynny gydag Ail Gyngor y Fatican rhwng yr 11 Hydref 1962  – yr 8fed Rhagfyr1965 ac wedyn o dan arweinyddiaeth Pab Ioan Pawl II (1978-2004). Yn awr mae'r Eglwys o dan arweinyddiaeth Pab Ffransis (Jorge Maria Bergoglio).

Nifer

Mae yna tua 1,085,557,000 o Gatholigion yn y byd, gan gynnwys 5,700,000 ym Mhrydain a 58,000,000 yn UDA.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.