Maredudd ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion, cyfeiriad, map
B robot yn ychwanegu: ru:Маредид ап Оуайн
Llinell 25: Llinell 25:
[[fr:Maredudd ab Owain]]
[[fr:Maredudd ab Owain]]
[[it:Maredudd ab Owain]]
[[it:Maredudd ab Owain]]
[[ru:Маредид ап Оуайн]]

Fersiwn yn ôl 15:53, 14 Ebrill 2010

Teyrnas Maredudd ab Owain ar ei eithaf (glas).

Roedd Maredudd ab Owain (bu farw 999) yn frenin Gwynedd a Deheubarth. Llwyddodd i sefydlu ei awdurdod dros y rhan fwyaf o Gymru, ac eithrio'r de-ddwyrain.

Roedd Maredudd yn fab i Owain ap Hywel Dda, brenin Deheubarth. Pan aeth Owain yn rhy hen i arwain mewn brwydr, cymerodd Maredudd ei le, ac yn 986 llwyddodd i gipio Gwynedd o ddwylo Cadwallon ab Ieuaf. Yr oedd Gwynedd wedi bod yn rhan o derynas ei daid, Hywel Dda ac mae'n debyg fod y teulu yn parhau i'w hawlio. Ar farwolaeth Owain yn 988 daeth Maredudd yn frenin Deheubarth hefyd. Efallai fod y cyfan o Gymru heblaw Gwent a Morgannwg yn rhan o'i deyrnas.

Mae cofnod amdano yn ymosod ar safleoedd gwŷr Mercia ar hyd y ffin a chofnodir hefyd ei fod wedi talu pris o geiniog y pen i ryddhau nifer o'i ddeiliaid oedd wedi eu cymeryd yn garcharorion yn ymosodiadau'r Llychlynwyr. Yr oedd ymosodiadau y Daniaid yn broblem barhaus yn ystod teyrnasiad Maredudd. Yn 987 ymosododd y Daniad Godfrey Haroldson ar Ynys Môn gan ladd mil o wŷr a dwyn dwy fil ymaith yn garcharorion.

Bu Maredudd farw yn 999 ac mae'n cael ei ddisgrifio ym Mrut y Tywysogion fel "brenin mwyaf clodfawr y Brutaniaid".[1] Yn dilyn ei farwolaeth enillwyd gorsedd Gwynedd yn ôl i linach Idwal Foel gan Cynan ap Hywel.

Cyfeiriadau

  1. Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20., tud. 13a.

Ffynonellau

  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
  • Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20. (Caerdydd, 1941)