Grymoedd rhyngfoleciwlaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: it:Forze intermolecolari
Dinamik-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: it:Legami intermolecolari
Llinell 52: Llinell 52:
[[es:Fuerza intermolecular]]
[[es:Fuerza intermolecular]]
[[id:Gaya antarmolekul]]
[[id:Gaya antarmolekul]]
[[it:Forze intermolecolari]]
[[it:Legami intermolecolari]]
[[ja:分子間力]]
[[ja:分子間力]]
[[lv:Molekulārie spēki]]
[[lv:Molekulārie spēki]]

Fersiwn yn ôl 16:32, 12 Ebrill 2010

Mae grymoedd rhyngfoleciwlaidd yn rheoli priodweddau ffisegol megis berwbwynt a hydoddedd. Dyma'r grymoedd sy'n cadw'r moleciwlau yn agos i'w gilydd yn yr hylif a'r solid. Y cryfaf yw'r grymoedd rhwng y moleciwlau, y mwyaf yw'r egni sydd ei angen i'w torri, felly'r uchaf bydd y berwbwynt.

Mae yna dair math o rym rhyngfoleciwlaidd:-

  1. Bondio Hydrogen (Y cryfaf)
  2. Grymoedd deupol-deupol
  3. Grymoedd deupol-anwythol deupol anwythol (Grymoedd van der waals)

Mae pob un o'r grymoedd hyn yn wannach na'r bondiau cofalent. Felly bydd gan gyfansoddyn gyda bondiau hydrogen rhwng y moleciwlau berwbwyntiau uchel.

Bydd gan gyfansoddion gyda grymoedd deupol anwythol -deupol anwythol rhwng y moleciwlau berwbwyntiau isel.

Grymoedd deupol-deupol

Mae’n bosib i rhai moleciwlau gario deupolau. Mae’r gwefrau bach polar yn atynnu ei gilydd, a dyma wraidd y grym rhyngfoleciwlaidd hwn. Mae’r gwefrau llawer yn llai na’r gwefrau mewn ionau, felly mae’r grymoedd llawer yn wanach na’r grymoedd yn y dellten ionig.

I ddarganfod os oes grymoedd deupol-deupol yn bresenol, rhaid darganfod os oes deupol yn y moleciwl. Ffurfir deupol os oes gan ddau atom wedi’i bondio i’w gilydd electronegatifedd tra gwahanol

Rhai esiamplau yw bondiau C-O C-Cl neu C-F

Grymoedd deupol anwythol- deupol anwythol (Grymoedd van der Waals)

Mae llawer o foleciwlau amholar, fel H2 a’r nwyon nobl, yn gallu cael eu hylifo ar dymheredd isel ac o dan wasgedd uchel. Mae’n dilyn felly fod gan y moleciwlau hyn atyniad at ei gilydd. Mae’r grymoedd hyn yn wan iawn, ac fe’u gelwir yn rymoedd deupol anwythol- deupol anwythol, neu’n fwy aml yn rymoedd van der Waals. Mae’r grymoedd hyn yn bodoli oherwydd deupolau dros dro.

Mae’r electronnau o fewn moleciwl yn symud yn gyflum tu mewn i’r orbitalau yn y moleciwl. Nid patrwm i’w mudiant ac felly gall gwefr posotif y niwclews a gwefr negatif yr electronnau cyd-daro ar unrhyw bryd. Gelwir hyn yn ddeupol tonnog. Mae’r gwefr negatif yn y deupol hwn yn medru gwrthyrru electronnau yng nghwmwl electron moleciwl arall i greu deupol dros dro yn y moleciwl hwnnw.

Gan fod grymoedd van der Waals yn bresennol mewn unrhyw foleciwl sy’n cynnwys electronnau, maent yn bresennol mewn pob moleciwl. Er hynnu mae’r grymoedd yn wan iawn, felly nid y rhain yw’r grymoedd pwyicaf lle bo unrhyw rym rhyngfoleciwlaidd arall.

Gan fod y grymoedd yn dibynnu ar fudiant electronnau: Po fwyaf y nifer o electronnau mewn moleciwl, po fwyaf hefyd fydd y deupolau dros- dro a po fwyaf yna fydd y grymoedd van der Waals a sefydlir.

Mae nifer yr electronnau yn cynyddu wrth fynd i lawr y grwp, sy’n arwain van der Waals cryfach ac felly berwbwyntiau uwch.

Bondio Hydrogen

Pan mae hydrogen yn bondio i elfen electronegyddol iawn (fflworin, ocsigen neu nitrogen) caiff deupol mawr ei greu. Mae’r sefyllfa yma yn unigryw gan fod atom o hydrogen mor fach heb unrhyw plisg electronnau mewnol.

  • Dim ond un electron sydd ar yr atom hydrogen, ac mae’r electron yna yn treilio rhan helaeth o’i amser rhwng y ddau niwclews.
  • Heb blisg mewnol llawn nid oes yna unrhyw sgrinio o’r niwclews.
  • Mae’r atom mor fach, felly gall pen negatif deupol agosau at niwclews yr hydrogen.

Gall yr ardal posotif yma ffurfio grymoedd deupol-deupol hynod o gryf gyda gwefr negatif. Gelwir yn bondio hydrogen, a gall grym rhyngfoleciwlaidd hwn fod hyd at 10% o gryfder bond cofalent. Mae’r bondiau hydrogen hefyd yn fwy cyfeiriadol eu natur na grymoedd deupolar. Arweinwyr hyn at dellt efo fwy o drefn na dellt lle nid oes bondio hydrogen.


Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.