Geiseric: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: en:Genseric |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: hu:Geiserik vandál király |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
[[he:גאיזריק]] |
[[he:גאיזריק]] |
||
[[hr:Gajzerik]] |
[[hr:Gajzerik]] |
||
[[hu:Geiserik]] |
[[hu:Geiserik vandál király]] |
||
[[it:Genserico]] |
[[it:Genserico]] |
||
[[ja:ガイセリック]] |
[[ja:ガイセリック]] |
Fersiwn yn ôl 08:53, 12 Ebrill 2010
Brenin llwyth Almaenig y Fandaliaid oedd Geiseric (tua 389 - 25 Ionawr 477). Ystyrir mai ef oedd y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid.
Roedd Genseric yn fab i'r brenin Godigisel, a ganed ef tua 389, mae'n debyg yn ardal Llyn Balaton yn Hwngari. Daeth i'r orsedd yn 427 neu 428. Yn 429 cymerodd fantais o anghydfod yn yr Ymerodraeth Rufeinig i groesi i Ogledd Affrica gyda 80,000 o wŷr. Gosodasant warchae ar ddinas Hippo Regius, lle bu Sant Awstin farw yn Awst 430 yn ystod y gwarchae. Gwnaed heddwch â'r Rhufeiniaid am gyfnod, ond ym 439 cipiodd Geiseric ddinas Carthago.
Tyfodd Teyrnas y Fandaliaid a'r Alaniaid yn deyrnas gref yn ystod teyrnasiad Geiseric. Yn 455 cipiwyd dinas Rhufain ganddynt. Dywedir i'r Pab Leo Fawr gyfarfod Geiseric tu allan i'r ddinas a'i berswadio i beidio niweidio'r trigolion, ond anrheithiwyd y ddinas. Bu farw Geiseric yn 477, a dilynwyd ef gan ei fab Huneric.