Cyrch Barbarossa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: de, ta, tl, yi yn newid: pl
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: de:Unternehmen Barbarossa
Llinell 14: Llinell 14:
[[cs:Operace Barbarossa]]
[[cs:Operace Barbarossa]]
[[da:Operation Barbarossa]]
[[da:Operation Barbarossa]]
[[de:Deutsch-Sowjetischer Krieg]]
[[de:Unternehmen Barbarossa]]
[[en:Operation Barbarossa]]
[[en:Operation Barbarossa]]
[[eo:Operaco Barbaroso]]
[[eo:Operaco Barbaroso]]

Fersiwn yn ôl 08:29, 12 Ebrill 2010

Cyrch Barbarossa

Cyrch Barbarossa (Almaeneg: Unternehmen Barbarossa) oedd yr enw a roddwyd i ymosodiad yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd ar 22 Mehefin 1941 yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Enwyd yr ymgyrch ar ôl yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa. Parhaoedd Cyrch Barbarossa ei hun hyd Rhagfyr 1941, ond parhaodd yr ymladd ar y ffrynt dwyreiniol hyd fis Mai 1945, pan ildiodd yr Almaen wedi i'r Fyddin Goch gipio Berlin.

Nôd Cyrch Barbarossa oedd meddiannu rhan Ewropeaidd yr Undeb Sofietaidd. Roedd yr ymosodiad yn torri cytundeb heddwch rhwng Adolf Hitler a Joseff Stalin. Ar y cychwyn, enillodd yr Almaenwyr fuddugoliaethau mawr, gan lwyddo i amgylchynu nifer fawr o filwyr Rwsaidd a'u cymeryd yn garcharorion. Fodd bynnag, erbyn mis Hydref roedd yr ymosodiadau Almaenig yn cael llai o lwyddiant, yn rhannol oherwydd y mwd oedd wedi dilyn glawogydd yr hydref. Cyhaeddodd yr Almaenwyr hyd gyrion Moscow, ond ni allasant fynd ymhellach. Gwrthododd Hitler ganiatâd iddynt i encilio i safleoedd mwy pwrpasol ar gyfer y gaeaf.

Dioddefodd y ddwy ochr golledion trwm, a dilynwyd yr ymgyrch yma gan frwydrau ar raddfa enfawr yn ystod 1942 a 1943. Yn raddol, gorfodwyd yr Almaenwyr i encilio o Rwsia, ac aeth y Fyddin Goch ymlaen i feddiannu rhan ddwyreiniol yr Almaen.