Marc Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
cats
Llinell 13: Llinell 13:
Wedi cyfnod yn byw yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], mae Marc bellach wedi ymgartrefu yn [[Nantycaws]] ar gyrion Caerfyrddin gyda'i deulu.
Wedi cyfnod yn byw yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], mae Marc bellach wedi ymgartrefu yn [[Nantycaws]] ar gyrion Caerfyrddin gyda'i deulu.


[[Categori:Cyflwynwyr radio|Griffiths, Marc]]
{{DEFAULTSORT:Griffiths, Marc}}
[[Categori:Cyflwynwyr radio Cymreig|Griffiths, Marc]]
[[Categori:Genedigaethau 1979]]
[[Categori:Genedigaethau 1979|Griffiths, Marc]]
[[Categori:BBC Radio Cymru]]
[[Categori:Pobl o Sir Gaerfyrddin|Griffiths, Marc]]
[[Categori:Cyflwynwyr radio Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Sir Gaerfyrddin]]

Fersiwn yn ôl 22:14, 10 Ebrill 2010

Darlledwr yw Marc Griffiths (ganwyd 23 Mawrth 1979 yng Nghaerfyrddin) sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel cyflwynydd ar raglen y De Orllewin ar BBC Radio Cymru bob bore rhwng 8.30-10.30am.

Magwyd Marc ym mhentref Llanybydder ger Llanbedr Pont Steffan, a chafodd ei addysg yn Ysgol Llanybydder ac yna yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul.

Yn 1995, gadawodd yr ysgol a chafodd swydd llawn amser yn Theatr Felinfach fel technegydd, ac yn y stiwdio fach ar gampws y theatr y cafodd y cyfle i gyflwyno, recordio a golygu rhaglenni i Radio Ceredigion.

Ymunodd â BBC Radio Cymru yn 2000, ac mae bellach yn cyflwyno ei raglen ei hun bob nos Sadwrn am 7.15pm, ac ef sydd bellach yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen arbennig i'r De Orllewin bob bore am 8.30am ar BBC Radio Cymru, yn dilyn marwolaeth Ray Gravell yn Hydref 2007. Mae criw o bobl sy'n helpu Marc ar ei raglen foreol yn cynnwys Tomos Morse, Keith 'Bach' Davies a Wyn Jones.

Mae Marc hefyd wedi bod yn actio mewn ambell i gyfres deledu gan gynnwys Tafarn y Gwr Drwg, Tair Chwaer, Y Glas, Marinogion a Llafur Cariad.

Bu hefyd am gyfnod o wyth mlynedd yng nghwmni darlledwyr eraill fel Geraint Lloyd a Terwyn Davies, yn aelod o gwmni actorion Theatr Felinfach ac yn portreadu rhan un o'r dynion drwg yn y pantomeim enwog!

Wedi cyfnod yn byw yng Nghaerdydd, mae Marc bellach wedi ymgartrefu yn Nantycaws ar gyrion Caerfyrddin gyda'i deulu.