Oesoffagws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ug:ھەزىم يولى |
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: hy:Կերակրափող |
||
Llinell 58: | Llinell 58: | ||
[[he:ושט]] |
[[he:ושט]] |
||
[[hr:Jednjak]] |
[[hr:Jednjak]] |
||
[[hy:Կերակրափող]] |
|||
[[id:Esofagus]] |
[[id:Esofagus]] |
||
[[io:Ezofago]] |
[[io:Ezofago]] |
Fersiwn yn ôl 11:49, 9 Ebrill 2010
Peipen allan o gyhyr a geir mewn rhai anifeiliaid ydyw'r esophagus (America) neu oesophagus (Lloegr) neu ar lafar: y llwnc. Mae bwyd yn cael ei basio drwyddo ar ei daith o'r ceg i'r stumog. O'r Lladin y daw'r gair a hwnnw yn ei dro'n fenthyciad o'r Groeg oisophagos (οισοφάγος), sef "mynediad y bwyd". Mewn bodau dynol caiff ei leoli yr un lefel â fertibra C6 ac mae'n 25-30 cm o hyd, gan ddiweddu yng ngheg y stumog.
Mae iddo dair rhan: y rhan yddfol, thoracsig ac abdominal.
Ei waith
Drwy'r broses o wringhelliad (neu beristalisis), mae bwyd yn teithio drwyddo i'r stumog. Gwringhelliad ydy'r broses o gyhyrau'n cyfangu gan leihau a gwthio'r bwyd ar ei daith. Gan nad oes ganddo leining miwcws (yn wahanol i'r stumog) gall asid y stumog gnoi i fewn iddo gan ei greithio. I fod yn fanwl gywir, mae'n cysylltu'r argeg (ffaryncs) sef y lle gwag hwnnw a ddefnyddir hefyd gan y system respiradu a'r stumog ble mae'r ail ran o'r broses dreulio yn digwydd.