Caracalla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: ms:Caracalla |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: nds:Caracalla; cosmetic changes |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Er gwaethaf ei lwyddiant milwrol yr oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn casau Caracalla oherwydd ei greulondeb, a chododd cynllwyn ei ei erbyn, gyda pennaeth y Praetoriaid, [[Macrinus]], yn ei arwain. Llofruddiwyd Caracalla pan oedd ar ei ffordd i ddinas [[Carrhae]] yn [[Mesopotamia]]. Daeth Macrinus yn ymerawdwr yn ei le am gyfnod. Mae [[Baddonau Caracalla]] a adeiladwyd ganddo yn Rhufain yn parhau mewn bodolaeth. |
Er gwaethaf ei lwyddiant milwrol yr oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn casau Caracalla oherwydd ei greulondeb, a chododd cynllwyn ei ei erbyn, gyda pennaeth y Praetoriaid, [[Macrinus]], yn ei arwain. Llofruddiwyd Caracalla pan oedd ar ei ffordd i ddinas [[Carrhae]] yn [[Mesopotamia]]. Daeth Macrinus yn ymerawdwr yn ei le am gyfnod. Mae [[Baddonau Caracalla]] a adeiladwyd ganddo yn Rhufain yn parhau mewn bodolaeth. |
||
[[Categori:Genedigaethau 186]] |
[[Categori:Genedigaethau 186]] |
||
Llinell 48: | Llinell 47: | ||
[[mn:Каракалла]] |
[[mn:Каракалла]] |
||
[[ms:Caracalla]] |
[[ms:Caracalla]] |
||
[[nds:Caracalla]] |
|||
[[nl:Caracalla]] |
[[nl:Caracalla]] |
||
[[no:Caracalla]] |
[[no:Caracalla]] |
Fersiwn yn ôl 20:50, 8 Ebrill 2010
Marcus Aurelius Antoninus Basianus (186 - 217), mwy adnabyddus fel Caracalla, oedd ymerawdwr Rhufain o 211 hyd ei farwolaeth. Daw'r enw Caracalla o "caracallus", math o ddilledyn, efallai clogyn, a wisgai'r ymerawdwr yn gyson.
Ganed Caracalla yn Lugdunum, Lyon yn Ffrainc heddiw, yn fab i Septimius Severus oedd ar y pryd yn rhaglaw talaith Gallia Lugdunensis. Pan ddaeth ei dad yn ymerawdwr cafodd Caracalla y teitl "Cesar" pan oedd yn saith oed. Yn 198 enwyd wf yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad. Yn 209 enwyd ei frawd Geta yn gyd-ymerawdwr hefyd. I gryfhau ei sefyllfa, gorfododd ei dad Caracalla i briodi Plautina, Plautianus, pennaeth Gard y Praetoriwm.
Yr oedd y berthynas rhwng Caracalla a Geta yn ddrwg, a gwaethygodd ymhellach pan enwyd y ddau yn gyd-olynwyr i'w tad pan fu ef farw ar 4 Chwefror 211. Llofruddiwyd Geta gan Caracalla yn 212. Dywedir i tua 20,000 o bobl oedd yn gwybod mai'r ymerawdwr yn gyfrifol am y llofruddiaeth gael ei lladd. Gadwodd Caracalla ddinas Rhufain i fynd ar ymgyrchoedd milwrol, ac ni ddychwelodd tra bu byw.
Aeth Caracalla i Germania, lle bu'n brwydro'n llwyddiannus yn erbyn rhai o'r llwythi Almaenaidd. Yn ddiweddarach bu'n ymladd yn y dwyrain. Ar ymweliad a Groeg daeth yn edmygydd mawr o Alecsander Mawr a phenderfynodd geisio ei efelychu. Yn 215 aeth i Alexandria i ymweld a bedd ei eilun, ond wedi cyhoeddi dychan ynglyn a llofruddiaeth Geta, dinistriwyd llawer o'r ddinas a lladdwyd miloedd o'r dinaswyr gan filwyr Caracalla. Yna aeth i ryfela yn erbyn y Parthiaid gyda chryn lwyddiant.
Er gwaethaf ei lwyddiant milwrol yr oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn casau Caracalla oherwydd ei greulondeb, a chododd cynllwyn ei ei erbyn, gyda pennaeth y Praetoriaid, Macrinus, yn ei arwain. Llofruddiwyd Caracalla pan oedd ar ei ffordd i ddinas Carrhae yn Mesopotamia. Daeth Macrinus yn ymerawdwr yn ei le am gyfnod. Mae Baddonau Caracalla a adeiladwyd ganddo yn Rhufain yn parhau mewn bodolaeth.