Thebai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn newid: tr:Thebai, Yunanistan |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
:''Am y ddinas yn yr Hen Aifft, gweler [[Thebes |
:''Am y ddinas yn yr Hen Aifft, gweler [[Thebes, Yr Aifft]]. Gweler hefyd [[Thebes]].'' |
||
Roedd '''Thebai''' ([[Groeg (iaith)|Hen Roeg]]: {{Hen Roeg|Θῆβαι}} — ''Thēbai''; hefyd '''Thebes''') yn ddinas yn [[Boeotia]], oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf [[Groeg yr Henfyd]]. Enw'r dref fodern ar y safle yw '''Thiva''' ([[Groeg]]: Θήβα). |
Roedd '''Thebai''' ([[Groeg (iaith)|Hen Roeg]]: {{Hen Roeg|Θῆβαι}} — ''Thēbai''; hefyd '''Thebes''') yn ddinas yn [[Boeotia]], oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf [[Groeg yr Henfyd]]. Enw'r dref fodern ar y safle yw '''Thiva''' ([[Groeg]]: Θήβα). |
||
Fersiwn yn ôl 16:15, 3 Ebrill 2010
- Am y ddinas yn yr Hen Aifft, gweler Thebes, Yr Aifft. Gweler hefyd Thebes.
Roedd Thebai (Hen Roeg: Θῆβαι — Thēbai; hefyd Thebes) yn ddinas yn Boeotia, oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf Groeg yr Henfyd. Enw'r dref fodern ar y safle yw Thiva (Groeg: Θήβα).
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd y ddinas gan Cadmos, mab brenin Sidon. Tua diwedd y 6ed ganrif CC. daeth Thebai i wrthdrawiad ag Athen am y tro cyntaf, pan gynorthwyodd yr Atheniaid ddinas lai Plataea yn eu herbyn. Pan ymosododd Ymerodraeth Persia ar y Groegiaid yn 480 CC., gyrroedd Thebai 700 o filwyr i ymladd ym Mrwydr Thermopylae dan Leonidas, ond roedd rhain yn ŵyr oedd yn gwrthwynebu polisi llywodraethwyr y ddinas. Ymunodd yr uchelwyr oedd mewn grym yn Thebai â Xerxes yn erbyn y Groegiaid eraill, ac ymladdasant drosto ym Mrwydr Plataea yn 479 CC.. Cefnogodd Thebai Sparta yn erbyn Athen yn y Rhyfel Peloponnesaidd, ac yn 424 CC. gorchfygasant Athen ym Mrwydr Delium.
Wedi buddugoliaeth Sparta yn y rhyfel, trôdd Thebai yn ei herbyn. Ym Mrwydr Leuctra yn 371 CC. enillodd Thebai dan Epaminondas fuddugoliaeth syfrdanol dros Sparta, a'i gwnaeth y ddinas fwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Daeth y cyfnod yma i ben pan laddwyd Epaminondas ym Mwydr Mantinea yn 362 CC.