Derwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 25: Llinell 25:


==Ecoleg==
==Ecoleg==
Mae‘r dibyniaeth y nifer mwyaf o rywogaethau ar y ddwy rywogaeth o dderwen yn rhagori ar unrhyw fath arall o goeden ym Mhrydain[angen ffynhonnell].
Mae‘r dibyniaeth y nifer mwyaf o rywogaethau ar y ddwy rywogaeth o dderwen yn rhagori ar unrhyw fath arall o goeden ym Mhrydaingwbl{{citation needed|date=Chwefror 2019}}


Darafal neu afal y dderwen yw hwn, math o chwydd (gall), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, gall-wasp yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr”, - cymharer (cymh. llygoden Ffrengig, cytiau Gwyddelod ayb.)[3]
'''Darafal''' neu afal y dderwen yw hwn, math o [[chwydd]] (gall), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, (''gall-wasp'' yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr”, - cymharer (cymh. [[llygoden Ffrengig]], [[cytiau Gwyddelod]] ayb.)<ref>Bwletin Llên Natur rhifyn 52</ref>


==Mytholeg a chred==
==Mytholeg a chred==

Fersiwn yn ôl 08:03, 27 Chwefror 2019

Derw
Derwen goesog Quercus robur
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fagales
Teulu: Fagaceae
Genws: Quercus
L.
Rhywogaethau

mwy na 500

Erthygl am y goeden yw hon. Ceir erthygl arall am y pentref yma.

Coed a llwyni sy'n perthyn i'r genws Quercus yw derw. Maen nhw'n cynhyrchu ffrwyth a elwir yn fes. Ceir dwy rywogaeth frodorol yng Nghymru: Derwen goesog (Quercus robur) a Derwen ddigoes (Quercus petraea).

Breninbrennau derw

Ym mis Ebrill 2013 cwympodd derwen Pontfadog, derwen hynaf Cymru ac mae'n debyg un o'r hynaf yng ngogledd Ewrop. Dywedir iddi dyfu yn Y Waun ger Wrecsam ers y flwyddyn 802. Gwyddys i Owain Gwynedd ymgasglu ei fyddin o dan y goeden yn 1157, cyn gorchfygu'r Brenin Hari II yng nghyrch Crogen gerllaw.[1]

  • Major Oak

Efallai mai’r Major Oak yn Fforest Sherwood, swydd Nottingham ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llên gwerin, defnyddid y goeden hon gan Robin Hood a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr Oes Fictoraidd, mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn Norset trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a DNA'r Major Oak.[2]

Ecoleg

Mae‘r dibyniaeth y nifer mwyaf o rywogaethau ar y ddwy rywogaeth o dderwen yn rhagori ar unrhyw fath arall o goeden ym Mhrydaingwbl[angen ffynhonnell]

Darafal neu afal y dderwen yw hwn, math o chwydd (gall), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, (gall-wasp yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr”, - cymharer (cymh. llygoden Ffrengig, cytiau Gwyddelod ayb.)[3]

Mytholeg a chred

Mewn nifer o ddiwylliannau Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Celtiaid (gweler drunemeton), roedd y dderwen yn goeden sanctaidd. Derwen yw tarddiad poblogaidd y gair Gymraeg derwydd, ond gwyddys bellach nad oes sail ieithyddol i hynny. Ym mytholeg y Germaniaid roedd y goeden yn perthyn i Ddonar, duw'r mellt. Roedd y Groegiaid yn ei chysylltu â Zeus, pennaeth duwiau Olympws; plennid derw sanctaidd mewn cysegrfannau fel Dodona. Mae'r dderwen yn symboleiddio nerth gwrywaidd a dyfalbarhad.

Cyfeiriadau

  1. Oriel gwefan Llen Natur (llun gyda chaniatad Coed Cadw)[1]
  2. Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 52