Broch (caer): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: nn:Broch
B robot yn ychwanegu: it:Broch
Llinell 14: Llinell 14:
[[en:Broch]]
[[en:Broch]]
[[fr:Broch]]
[[fr:Broch]]
[[it:Broch]]
[[nl:Broch]]
[[nl:Broch]]
[[nn:Broch]]
[[nn:Broch]]

Fersiwn yn ôl 18:20, 31 Mawrth 2010

Broch Dun Carloway, ar ynys Leòdhas.

Adeilad yn dyddio o Oes yr Haearn a geir yng ngogledd yr Alban yw Broch. Maent ar ffurf tyrrau crwn, ac yn ôl pob tebyg roedd to arnynt yn wreiddiol. Y farn draddodiadol oedd mai pwrpas amddiffynnol oedd iddynt, ond mae rhai archaeolegwyr yn amau hyn.

Rhestrodd yr RCAM 571 o safleoedd y gellid eu hystyried fel broch yn yr Alban. Ceir y rhan fwyaf ar ynysoedd Shetland, Ynysoedd Erch, Ynysoedd Heledd a gogledd tir mawr yr Alban, Caithness a Sutherland, er bod rhai esiamplau ymhellach i'r de.

Ymhlith yr esiamplau mwyaf adnabyddus mae Dun Carloway, ar ynys Leòdhas yn Ynysoedd Allanol Heledd a Broch Mousa ar ynys Mousa yn ynysoedd y Shetland.