Canu gwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ko:컨트리 음악
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: es:Country
Llinell 21: Llinell 21:
[[en:Country music]]
[[en:Country music]]
[[eo:Kontreo]]
[[eo:Kontreo]]
[[es:Música country]]
[[es:Country]]
[[et:Kantrimuusika]]
[[et:Kantrimuusika]]
[[fa:موسیقی کانتری]]
[[fa:موسیقی کانتری]]

Fersiwn yn ôl 23:59, 30 Mawrth 2010

Canu gwlad yw math o gerddoriaeth boblogaidd sydd â'i gwreiddiau yn nhraddodiad baledi hillbilly mynyddoedd yr Appalachians yn yr Unol Daleithiau. Dylanwad arall oedd y caneuon cowboi (felly'r enw Saesneg Country and Western, er mai Country Music neu Country yw'r enw mwy ffasiynol heddiw). Mae'r pwyslais yn y Canu gwlad ar leisiau mewn cytgord a lyrics sy'n adlewyrchu profiad y werin gyffredin. Yn aml mae'n sentimental iawn.

Sonnir heddiw am 'Ganu Gwlad Newydd' neu Progressive Country hefyd, wrth i genhedlaeth newydd chwilio am burdeb gwreiddiol y canu traddodiadol ar y naill law ac ar yr un pryd arbrofi efo technegau mwy diweddar, o fyd roc er enghraifft.

Mae cerddorion Canu gwlad yr "hen ysgol" yn cynnwys Dolly Parton a Linda Ronstadt ac, i raddau, Emmylou Harris. Mae rhai o'r grwpiau diweddar yn cynnwys Alison Krauss ac Union Station, sydd wedi gwneud albymau gyda'i gilydd, a'r Dixie Chicks â'i harmonis anhygoel.

Yng Nghymru cafodd Canu gwlad ddylanwad mawr ar gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg o'r 1960au ymlaen, gyda sêr fel Tony ac Aloma yn boblogaidd iawn. Ond aros efo'r "hen ysgol" wnaeth y Canu gwlad Cymraeg ac erbyn heddiw dydi o ddim yn boblogaidd iawn.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.