Medb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ru:Медб
newid y rhagymadrodd ychydig; delwedd
Llinell 1: Llinell 1:
[[Image:sligo_medb.jpg|de|thumb|256px|Carnedd Medb ar ben Cnoc na Riabh]]
[[Delwedd:Maev.jpg|250px|bawd|Medb: darlun gan J. C. Leyendecker.]]
Ym mytholeg Iwerddon, '''Medb''' ([[Gwyddeleg]]: hefyd '''Meabh''' neu '''Maeve''') yw brenhines teyrnas [[Connacht]] yng ngorllewin [[Iwerddon]]. Mae ganddi ran amlwg yn y ''[[Táin Bó Cúailnge]]'' ("Cyrch Gwartheg Cúailnge"), un o'r gweithiau pwysicaf yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon. Credir gan rai mytholegwyr ei bod yn wreiddiol yn dduwies sofraniaeth - agwedd ar Dduwies y Ddaear - a bod y brenin yn ei phriodi yn seremonïol.

Mae '''Medb''', brenhines [[Connacht]] yn [[Iwerddon]], hefyd '''Meabh''' neu '''Maeve''' yn gymeriad ym mytholeg Iwerddon, yn enwedig yn y [[Táin Bó Cúailnge]] ("Cyrch Gwartheg Cúailnge"), un o'r gweithiau pwysicaf yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon. Credir ei bod yn wreiddiol yn dduwies sofraniaeth, a bod yn brenin yn ei phriodi yn seremonïol.

Roedd Medb yn ferch i [[Eochaid Feidlech]], [[Uchel Frenin Iwerddon]]. Priododd nifer o weithiau. Ei gŵr cyntaf oedd [[Conchobar mac Nessa]] o [[Ulster]], ond ni pharhaodd y briodas yn hir. Priododd Conchobar chwaer Medb, Eithne, wedyn, ond llofruddiodd Medb hi.

[[Image:sligo_medb.jpg|200px|bawd|chwith|'Carnedd Medb' ar ben Cnoc na Riabh, [[Swydd Galway]].]]
Mae Medb ac un arall o'i gwŷr, [[Ailill mac Mágach|Ailill]] yn ymddangos yn y ''Táin Bó Cúailnge''. Pan mae Medb ac Ailill yn cymharu eu cyfoeth, maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw [[Finnbhennach]]. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn codi byddin i ddwyn y tarw enwog [[Donn Cuailnge]] o Cúailnge (Cooley).

Fersiwn yn ôl 22:26, 30 Mawrth 2010

Medb: darlun gan J. C. Leyendecker.

Ym mytholeg Iwerddon, Medb (Gwyddeleg: hefyd Meabh neu Maeve) yw brenhines teyrnas Connacht yng ngorllewin Iwerddon. Mae ganddi ran amlwg yn y Táin Bó Cúailnge ("Cyrch Gwartheg Cúailnge"), un o'r gweithiau pwysicaf yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon. Credir gan rai mytholegwyr ei bod yn wreiddiol yn dduwies sofraniaeth - agwedd ar Dduwies y Ddaear - a bod y brenin yn ei phriodi yn seremonïol.

Roedd Medb yn ferch i Eochaid Feidlech, Uchel Frenin Iwerddon. Priododd nifer o weithiau. Ei gŵr cyntaf oedd Conchobar mac Nessa o Ulster, ond ni pharhaodd y briodas yn hir. Priododd Conchobar chwaer Medb, Eithne, wedyn, ond llofruddiodd Medb hi.

'Carnedd Medb' ar ben Cnoc na Riabh, Swydd Galway.

Mae Medb ac un arall o'i gwŷr, Ailill yn ymddangos yn y Táin Bó Cúailnge. Pan mae Medb ac Ailill yn cymharu eu cyfoeth, maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw Finnbhennach. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn codi byddin i ddwyn y tarw enwog Donn Cuailnge o Cúailnge (Cooley).

Mae melltith ar wŷr Wlster, a'r unig un sydd ar gael i amddiffyn Wlster yw'r arwr dwy ar bymtheg oed Cúchulainn. Llwydda byddin Connacht i gipio'r tarw tra mae Cúchulainn yn cyfarfod merch, ond mae Cúchulainn yn galw ar yr hen hawl i fynnu ymladd un yn erbyn un ger rhyd. Pery'r ymladd am fisoedd, gyda Cúchulainn yn gorchfygu rhyfelwyr gorau Connacht un ar ôl y llall.

Yn y diwedd mae rhyfelwyr Wlster yn dechrau deffro, a gorfodir byddin Medb i encilio. Maent yn llwyddo i ddwyn Donn Cuailnge yn ôl i Connacht, ond wedi cyrraedd yno mae'n ymladd a Finnbhennach. Lleddir Finnbhennach, ond mae Donn Cuailnge ei hun yn cael ei glwyfo'n farwol.

Lladdwyd Medb gan Furbaide, mab Eithne, fel dial am lofruddiaeth ei fam. Yn ôl y chwedl, claddwyd hi dan garnedd 40 troedfedd o uchder ar gopa Cnoc na Riabh (Saesneg: Knocknarea) ger Sligo.

Llyfryddiaeth