William Henry Preece: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Adolygu'r tudalen |
Cysylltiadau |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
| caption = William Henry Preece; llun allan o ''Oliver Heaviside: Sage in Solitude'' |
| caption = William Henry Preece; llun allan o ''Oliver Heaviside: Sage in Solitude'' |
||
}} |
}} |
||
Peiriannydd o fri, arloeswr yn natblygiad telegraff a pheirianneg trydan a ddaeth yn Brif Beiriannydd Swyddfa Bost Prydain (1892) oedd y Cymro '''William Henry Preece''' KCB FRS ([[15 Chwefror]] [[1834]] – [[6 Tachwedd]] [[1913]]).<ref>[http://llennatur.com/files/u1/Cylchgrawn69.pdf [[Llên Natur]];] Rhif 69 Tachwedd 2013</ref> . Trwy ei diddordeb a'i swydd yn y Swyddfa Bost, bu'n mentor ymarferol pwysig i Guglielmo Marconi. O ganlyniad i hyn, o bosib, bu i Marconi perfformio sawl campwaith hanesyddol yng Nghymru. |
Peiriannydd o fri, arloeswr yn natblygiad telegraff a pheirianneg trydan a ddaeth yn Brif Beiriannydd [[Swyddfa Bost Gyffredinol|Swyddfa Bost]] [[Prydain Fawr|Prydain]] (1892) oedd y Cymro '''William Henry Preece''' KCB FRS ([[15 Chwefror]] [[1834]] – [[6 Tachwedd]] [[1913]]).<ref>[http://llennatur.com/files/u1/Cylchgrawn69.pdf [[Llên Natur]];] Rhif 69 Tachwedd 2013</ref> . Trwy ei diddordeb a'i swydd yn y Swyddfa Bost, bu'n mentor ymarferol pwysig i Guglielmo Marconi<ref>{{Cite web|url=https://www.history.com/topics/inventions/guglielmo-marconi|title=Guglielmo Marconi|date=31 Ionawr 2019|access-date=21/1/19|website=History.com|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. O ganlyniad i hyn, o bosib, bu i Marconi perfformio sawl campwaith hanesyddol yng Nghymru. |
||
== Bywyd cynnar == |
== Bywyd cynnar == |
||
Ganwyd Preece ym Mryn Helen, Bontnewydd, Sir Gaernarfon yn fab hynaf i Richard Matthias Preece a oedd wedi dod i'r Gogledd o'r Bontfaen ym Morgannwg a phriodi merch o Gaernarfon. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Coleg y Brenin (Y Strand, Llundain ar y pryd) cyn mynychu Coleg y Brenin, Llundain. Bu hefyd yn astudio wrth draed Michael Faraday yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Faraday a daniodd ynddo diddordeb oes mewn trydan. Yn 1870 ymunodd a'r Swyddfa Bost - a bu yno am 29 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyfrannodd i nifer o ddyfeisiadau a gwelliannau; gan gynnwys system signal a ychwanegodd yn sylweddol i ddiogelwch y Rheilffordd. Bu'n flaengar ym myd telegraff - a datblygodd ei gyfundrefn ddiwifr ei hun yn 1892. Dibynna hwn ar anwythiad electromagnetig. Er i Preece lwyddo i anfon negeseuon ar draws Môr Hafren, pellter hyd at ryw 3.1 milltir, mi 'roedd y drefn yn anhylaw - yn dibynnu ar drosglwyddydd a derbynnydd milltiroedd o hyd. Er hynny, daliodd ati i anfon negeseuon dros gulforoedd eraill megis Afon Menai a'r Solent, o'r tir i oleudy (e.e. Ynysoedd y Moelrhoniaid) a rhwng pyllau glo a'i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn bu Preece yn gyfrifol (gyda George Gabriel Stokes ag eraill) am ddigalonni David Edward Hughes yn ei ymchwil (1879) a fyddai, mae'n debyg, wedi arwain at ddarganfod tonnau radio. Mynnai'r "arbenigwyr" mai anwythiad oedd yr hyn yr oedd Hughes wedi'i ganfod. Mae'n debyg nad oedd Preece yn arbennig o hyblyg a'i syniadau a bu dadlau (diddichell) rhyngddo a sawl cawr yn ei faes gan gynnwys Oliver Lodge ac Oliver Heaviside dros y blynyddoedd |
Ganwyd Preece ym Mryn Helen, [[Bontnewydd, Arfon|Bontnewydd]], [[Sir Gaernarfon]] yn fab hynaf i Richard Matthias Preece a oedd wedi dod i'r Gogledd o'r [[Y Bont-faen|Bontfaen]] ym Morgannwg a phriodi merch o [[Caernarfon|Gaernarfon]]. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Coleg y Brenin ([[Y Strand]], [[Llundain]] ar y pryd) cyn mynychu [[Coleg y Brenin, Llundain]]. Bu hefyd yn astudio wrth draed [[Michael Faraday]] yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Faraday a daniodd ynddo diddordeb oes mewn [[trydan]]. Yn [[1870]] ymunodd a'r [[Swyddfa Bost Gyffredinol|Swyddfa Bost]] - a bu yno am 29 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyfrannodd i nifer o ddyfeisiadau a gwelliannau; gan gynnwys system signal a ychwanegodd yn sylweddol i ddiogelwch y [[Rheilffordd]]. Bu'n flaengar ym myd telegraff - a datblygodd ei gyfundrefn ddiwifr ei hun yn [[1892]]. Dibynna hwn ar [[Anwythiant trydanol|anwythiad electromagnetig]]. Er i Preece lwyddo i anfon negeseuon ar draws [[Môr Hafren]], pellter hyd at ryw 3.1 milltir, mi 'roedd y drefn yn anhylaw - yn dibynnu ar drosglwyddydd a derbynnydd milltiroedd o hyd. Er hynny, daliodd ati i anfon negeseuon dros gulforoedd eraill megis [[Afon Menai]] a'r Solent, o'r tir i oleudy (e.e. [[Ynysoedd y Moelrhoniaid]]) a rhwng pyllau glo a'i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn bu Preece yn gyfrifol (gyda George Gabriel Stokes ag eraill) am ddigalonni [[David Edward Hughes]] yn ei ymchwil ([[1879]]) a fyddai, mae'n debyg, wedi arwain at ddarganfod tonnau radio. Mynnai'r "arbenigwyr" mai anwythiad oedd yr hyn yr oedd Hughes wedi'i ganfod. Mae'n debyg nad oedd Preece yn arbennig o hyblyg a'i syniadau a bu dadlau (diddichell) rhyngddo a sawl cawr yn ei faes gan gynnwys Oliver Lodge ac Oliver Heaviside dros y blynyddoedd |
||
Yn 1880 dyfarnodd yr Uchel Lys mai telegram oedd y teleffon newydd. Gan mai'r Swyddfa Bost oedd a phob hawl rheoli technoleg y telegram yng ngwledydd Prydain, bu Preece yn rhan o'r broses o gyflwyno teleffon Alexander Graham Bell yma. Yn 1881 manteisiodd y Swyddfa bost ar y sefyllfa trwy addasi rhai o'r cyfnewidfeydd i ddelio a teleffon. Yn Ne Cymru (Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) y bu'r gyntaf o'r rhain. Yn 1881 etholwyd Preece yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ac yn 1892 fe'i hapwyntiwyd yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost. Mae'n debyg y bu'n enwog am ei darlithoedd syml ac ymarferol i'r cyhoedd ar y datblygiadau newydd. Cyhoeddodd dau lyfr a nifer o bapurau ar y teleffon. |
Yn 1880 dyfarnodd yr Uchel Lys mai telegram oedd y teleffon newydd. Gan mai'r Swyddfa Bost oedd a phob hawl rheoli technoleg y telegram yng ngwledydd Prydain, bu Preece yn rhan o'r broses o gyflwyno teleffon Alexander Graham Bell yma. Yn 1881 manteisiodd y Swyddfa bost ar y sefyllfa trwy addasi rhai o'r cyfnewidfeydd i ddelio a teleffon. Yn Ne Cymru (Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) y bu'r gyntaf o'r rhain. Yn 1881 etholwyd Preece yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ac yn 1892 fe'i hapwyntiwyd yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost. Mae'n debyg y bu'n enwog am ei darlithoedd syml ac ymarferol i'r cyhoedd ar y datblygiadau newydd. Cyhoeddodd dau lyfr a nifer o bapurau ar y teleffon. |
Fersiwn yn ôl 23:49, 21 Chwefror 2019
William Henry Preece | |
---|---|
William Henry Preece; llun allan o Oliver Heaviside: Sage in Solitude | |
Ganwyd | 15 Chwefror 1834 Caernarfon |
Bu farw | 6 Tachwedd 1913 Penrhos, Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, dyfeisiwr, peiriannydd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Telford Medal |
Peiriannydd o fri, arloeswr yn natblygiad telegraff a pheirianneg trydan a ddaeth yn Brif Beiriannydd Swyddfa Bost Prydain (1892) oedd y Cymro William Henry Preece KCB FRS (15 Chwefror 1834 – 6 Tachwedd 1913).[1] . Trwy ei diddordeb a'i swydd yn y Swyddfa Bost, bu'n mentor ymarferol pwysig i Guglielmo Marconi[2]. O ganlyniad i hyn, o bosib, bu i Marconi perfformio sawl campwaith hanesyddol yng Nghymru.
Bywyd cynnar
Ganwyd Preece ym Mryn Helen, Bontnewydd, Sir Gaernarfon yn fab hynaf i Richard Matthias Preece a oedd wedi dod i'r Gogledd o'r Bontfaen ym Morgannwg a phriodi merch o Gaernarfon. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Coleg y Brenin (Y Strand, Llundain ar y pryd) cyn mynychu Coleg y Brenin, Llundain. Bu hefyd yn astudio wrth draed Michael Faraday yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Faraday a daniodd ynddo diddordeb oes mewn trydan. Yn 1870 ymunodd a'r Swyddfa Bost - a bu yno am 29 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyfrannodd i nifer o ddyfeisiadau a gwelliannau; gan gynnwys system signal a ychwanegodd yn sylweddol i ddiogelwch y Rheilffordd. Bu'n flaengar ym myd telegraff - a datblygodd ei gyfundrefn ddiwifr ei hun yn 1892. Dibynna hwn ar anwythiad electromagnetig. Er i Preece lwyddo i anfon negeseuon ar draws Môr Hafren, pellter hyd at ryw 3.1 milltir, mi 'roedd y drefn yn anhylaw - yn dibynnu ar drosglwyddydd a derbynnydd milltiroedd o hyd. Er hynny, daliodd ati i anfon negeseuon dros gulforoedd eraill megis Afon Menai a'r Solent, o'r tir i oleudy (e.e. Ynysoedd y Moelrhoniaid) a rhwng pyllau glo a'i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn bu Preece yn gyfrifol (gyda George Gabriel Stokes ag eraill) am ddigalonni David Edward Hughes yn ei ymchwil (1879) a fyddai, mae'n debyg, wedi arwain at ddarganfod tonnau radio. Mynnai'r "arbenigwyr" mai anwythiad oedd yr hyn yr oedd Hughes wedi'i ganfod. Mae'n debyg nad oedd Preece yn arbennig o hyblyg a'i syniadau a bu dadlau (diddichell) rhyngddo a sawl cawr yn ei faes gan gynnwys Oliver Lodge ac Oliver Heaviside dros y blynyddoedd
Yn 1880 dyfarnodd yr Uchel Lys mai telegram oedd y teleffon newydd. Gan mai'r Swyddfa Bost oedd a phob hawl rheoli technoleg y telegram yng ngwledydd Prydain, bu Preece yn rhan o'r broses o gyflwyno teleffon Alexander Graham Bell yma. Yn 1881 manteisiodd y Swyddfa bost ar y sefyllfa trwy addasi rhai o'r cyfnewidfeydd i ddelio a teleffon. Yn Ne Cymru (Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) y bu'r gyntaf o'r rhain. Yn 1881 etholwyd Preece yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ac yn 1892 fe'i hapwyntiwyd yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost. Mae'n debyg y bu'n enwog am ei darlithoedd syml ac ymarferol i'r cyhoedd ar y datblygiadau newydd. Cyhoeddodd dau lyfr a nifer o bapurau ar y teleffon.
Marconi a Radio
Rhwng 1885 a 1889 roedd yr Almaenwr Heinrich Hertz wedi gosod sylfaeni damcaniaethol tonfeddi radio - ac wedi gwneud sawl arbrawf i'w arddangos. Ond nid oedd wedi meddwl am ddefnydd ymarferol i'r ffenomen. Yn 1894, yn ddatblygiad o syniadau Herz, gwnaeth Eidalwr o'r enw Guglielmo Giovanni Maria Marconi arsylliadau tyngedfennol. Erbyn 1895 'roedd y argyhoeddedig ei bod wedi darganfod modd newydd (radio yn hytrach nag anwythiad) o ganfod signal o bellter. Anfonodd ei syniad i'r Weinyddiaeth Bost a Thelegraff yn Rhufain. Anwybyddwyd ei lythyr yn llwyr (yn wir ysgrifennwyd nodyn yn cyfeirio at y gwallgofdy lleol ar ei thraws). Cafodd Marconi lythyr cyflwyniad i lysgennad yr Eidal yn Llundain gan gyfaill o ddiplomydd uchel a theithiodd, gyda'i fam, i Loegr. Ym mhorthladd Dover bu gryn ddiddordeb yn cynnwys ei fagiau ac ar unwaith anfonwyd neges i Bencadlys y Llynges. Fe'i gwahoddwyd yno'n syth - lle'i cyflwynwyd i William Henry Preece. Dros y blynyddoedd i ddilyn bu Preece yn gefn ac yn gymorth iddo. Defnyddiodd Preece ei ddoniau cyfathrebu i gyflwyno syniadau Marconi i'r cyhoedd mewn dwy ddarlith dyngedfennol (Neuadd Toynbee, 11 Rhagfyr 1896 a'r Sefydliad Brenhinol, 4 Mehefin 1897). Ar ol arbrofion ar dir y fyddin ger Salisbury, ar 13 Mai 1897 danfonodd Marconi signal radio o Drwyn Larnog yn ne Cymru i Ynys Echni, 3.7 milltir i ffwrdd ym Môr Hafren. Yn 1892 roedd Preece wedi defnyddio'r un lleoliad ar gyfer ei arbrofion ef ei hun.[3]Profodd hyn y gallai radio weithio dros ddŵr yn ogystal â thir ac felly fod o ddefnydd i'r Llynges a llongau eraill. Preece oedd prif gynorthwyydd Marconi, gan sicrhâi iddo gefnogaeth ariannol o'r Swyddfa Bost
Ym 1901, anfonodd Marconi signalau radio o Poldhu, Cernyw i Newfoundland, Canada. Ychydig wedi hynny adeiladodd Marconi orsaf radio bwerus yn Waunfawr ger Caernarfon; nepell o gartref William Preece. Tyfodd hwn yn un o orsafoedd pwysicaf Ymerodraeth Prydain am nifer o flynyddoedd. Felly, er i ymdrechion Preece ei hun i ddatblygu system ddiwyfr dros bellter fethu, roedd ei gymorth i Marconi'n allweddol yn natblygiad cyfathrebu torfol.
Blynyddoedd Olaf
Bu Preece yn Llywydd Sefydliadau’r Peirianwyr Trydanol (1893) a'r Peirianwyr Sifil (1898-99). Yn 1899 ymddeolodd o'r Swyddfa Bost ac fe'i hurddwyd yn Farchog (KCB) yn rhestr Pen-blwydd y Frenhines Fictoria (Mehefin 3) y flwyddyn honno. Cafodd ei urddo yn Swyddog y Légion d‘Honneur a derbyniodd radd D.Sc. Prifysgol Cymru yn 1911. Symudodd yn ol i Gaernarfon ar ol ymddeol, ac yno y bu farw ar 6 Tachwedd 1913.
Cyfeiriadau
- ↑ Llên Natur; Rhif 69 Tachwedd 2013
- ↑ "Guglielmo Marconi". History.com. 31 Ionawr 2019. Cyrchwyd 21/1/19. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Arwyr Cymru adalwyd 08 Tachwedd 2013