Ynys Lawd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
B robot yn ychwanegu: nn:South Stack |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
[[en:South Stack]] |
[[en:South Stack]] |
||
[[nn:South Stack]] |
Fersiwn yn ôl 19:48, 26 Mawrth 2010
Ynys fach ar benrhyn mwyaf gorllewinol Ynys Gybi, ar Fôn, a gysylltir â'r tir mawr gan bont fach, tua milltir i'r gorllewin o Fynydd Twr.
Daw'r enw Saesneg South Stack o'r gair Sgandinafaidd stak, sef "ynys" (gweler hefyd Ynys Arw, a elwir North Stack yn Saesneg). Ystyr arferol y gair Cymraeg lawd yw "gwres", sef gwres anifeiliad yn neilltuol, ond mae arwyddocâd yr enw yn yr achos hwn yn ddirgelwch.
Ceir goleudy enwog ar yr ynys sydd bellach yn atyniad twristaidd. Codwyd y goleudy cyntaf ar Ynys Lawd yn 1809. Cynlluniwyd y goleudy presennol gan y pensaer Joseph Nelson a chafodd ei godi gan y peirianydd sifil Daniel Alexander. Costiodd o gwmpas £12,000. Er 1984 mae'r goleudy wedi cael ei reoli o hirbell o ganolfan gwylio'r glannau Caergybi.