Afon Rheidol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu ychydig - tarddleoedd
BDim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:
[[Afon]] yng nghanolbarth [[Cymru]] yw '''Afon Rheidol''' sy'n llifo trwy [[Ceredigion|Geredigion]] o'i tharddle ar [[Pumlumon|Bumlumon]] hyd at ei haber yn [[Aberystwyth]].
[[Afon]] yng nghanolbarth [[Cymru]] yw '''Afon Rheidol''' sy'n llifo trwy [[Ceredigion|Geredigion]] o'i tharddle ar [[Pumlumon|Bumlumon]] hyd at ei haber yn [[Aberystwyth]].

Mae tarddleoedd Afon Rheidol i'w gael yn y nentydd sy'n llifo i mewn i gronfa ddŵr [[Nant-y-moch]] (ger safle [[brwydr Hyddgen]], [[1401]]) ar lethrau gorllewinol [[Pumlumon]]. Mae gwir darddle ddaearyddol yr afon yn anodd penderfynu. Yn draddodiadol, [[Llyn Llygad Rheidol]], mewn cwm uchel ger copa Pumlumon Fawr, yw tarddle Rheidol, fel y mae ei enw yn awgrymu; mae Nant y Llyn yn disgyn ohono i Nant-y-moch ond nid yw'n ffrwd sylweddol. Ond ceir sawl ffrwd arall o faint mwy sylweddol, megis afon Hengwm, sydd a'i tharddle i'r de o lyn [[Bugeilyn]] fymryn dros y ffin ym [[Powys|Mhowys]]. Mae afon Llechwedd-mawr yn tarddu yn [[Llyn Conach]] ac yn dynoi'r ffin rhwng Cerdigion a Phowys am ran o'i chwrs. Ceir sawl ffrwd llai, yn cynnwys ffrwd Nant-y-moch yr enwir y gronfa dŵr ar ei hôl.
Mae tarddleoedd Afon Rheidol i'w gael yn y nentydd sy'n llifo i mewn i gronfa ddŵr [[Nant-y-moch]] (ger safle [[brwydr Hyddgen]], [[1401]]) ar lethrau gorllewinol [[Pumlumon]]. Mae gwir darddle ddaearyddol yr afon yn anodd penderfynu. Yn draddodiadol, [[Llyn Llygad Rheidol]], mewn cwm uchel ger copa Pumlumon Fawr, yw tarddle Rheidol, fel y mae ei enw yn awgrymu; mae Nant y Llyn yn disgyn ohono i Nant-y-moch ond nid yw'n ffrwd sylweddol. Ond ceir sawl ffrwd arall o faint mwy sylweddol, megis afon Hengwm, sydd a'i tharddle i'r de o lyn [[Bugeilyn]] fymryn dros y ffin ym [[Powys|Mhowys]]. Mae afon Llechwedd-mawr yn tarddu yn [[Llyn Conach]] ac yn dynodi'r ffin rhwng Cerdigion a Phowys am ran helaeth ei chwrs. Ceir sawl ffrwd llai, yn cynnwys ffrwd Nant-y-moch yr enwir y gronfa dŵr ar ei hôl.

O Nant-y-moch mae'r afon yn llifo tua'r de i [[Cronfa Dinas|gronfa Dinas]] ac yno trwy bentref [[Ponterwyd]] a'i chymer ag [[Afon Mynach]] ymuno â hi. Yn fuan ar ôl cymer Afon Mynach, mae Rheidol yn disgyn dros raeadr wrth ymyl pentref [[Pontarfynach]]. Mae yn awr yn llifo tua'r gorllewin heibio i hen gloddfa blwm [[Cwm Rheidol]]. Er bod y gloddfa yma wedi cau, mae'n parhau i effeithio ar ddŵr Afon Rheidol. Mae'r afon yn awr yn parhau tua'r gorllewin ac yn cyrraedd y môr yn harbwr [[Aberystwyth]] lle mae'n llifo i [[Bae Ceredigion|Fae Ceredigion]].

Fersiwn yn ôl 19:42, 24 Mawrth 2010

Afon Rheidol yn y gwanwyn.

Afon yng nghanolbarth Cymru yw Afon Rheidol sy'n llifo trwy Geredigion o'i tharddle ar Bumlumon hyd at ei haber yn Aberystwyth.

Mae tarddleoedd Afon Rheidol i'w gael yn y nentydd sy'n llifo i mewn i gronfa ddŵr Nant-y-moch (ger safle brwydr Hyddgen, 1401) ar lethrau gorllewinol Pumlumon. Mae gwir darddle ddaearyddol yr afon yn anodd penderfynu. Yn draddodiadol, Llyn Llygad Rheidol, mewn cwm uchel ger copa Pumlumon Fawr, yw tarddle Rheidol, fel y mae ei enw yn awgrymu; mae Nant y Llyn yn disgyn ohono i Nant-y-moch ond nid yw'n ffrwd sylweddol. Ond ceir sawl ffrwd arall o faint mwy sylweddol, megis afon Hengwm, sydd a'i tharddle i'r de o lyn Bugeilyn fymryn dros y ffin ym Mhowys. Mae afon Llechwedd-mawr yn tarddu yn Llyn Conach ac yn dynodi'r ffin rhwng Cerdigion a Phowys am ran helaeth ei chwrs. Ceir sawl ffrwd llai, yn cynnwys ffrwd Nant-y-moch yr enwir y gronfa dŵr ar ei hôl.

O Nant-y-moch mae'r afon yn llifo tua'r de i gronfa Dinas ac yno trwy bentref Ponterwyd a'i chymer ag Afon Mynach ymuno â hi. Yn fuan ar ôl cymer Afon Mynach, mae Rheidol yn disgyn dros raeadr wrth ymyl pentref Pontarfynach. Mae yn awr yn llifo tua'r gorllewin heibio i hen gloddfa blwm Cwm Rheidol. Er bod y gloddfa yma wedi cau, mae'n parhau i effeithio ar ddŵr Afon Rheidol. Mae'r afon yn awr yn parhau tua'r gorllewin ac yn cyrraedd y môr yn harbwr Aberystwyth lle mae'n llifo i Fae Ceredigion.

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.