Helyntion Beca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: no:Rebeccaopprørene
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fr:Émeutes de Rebecca
Llinell 21: Llinell 21:


[[en:Rebecca Riots]]
[[en:Rebecca Riots]]
[[fr:Émeutes de Rebecca]]
[[no:Rebeccaopprørene]]
[[no:Rebeccaopprørene]]
[[uk:Бунти Ревеки]]
[[uk:Бунти Ревеки]]

Fersiwn yn ôl 09:42, 24 Mawrth 2010

Digriflun o'r London Illustrated News yn dangos Merched Beca yn ymosod ar dollborth

Gwrthryfel gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg oedd Helyntion Beca (hefyd Becca), a barodd o 1839 hyd 1844. Trawodd Beca gyntaf yn Efail-wen ar yr 13 Mai 1839, gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y 6 Mehefin yn yr un flwyddyn ac eto ar yr 17 Gorffennaf. Llosgwyd y tolldy. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr 1843 a gwanwyn 1844 ledled de-orllewin Cymru. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd y dynion yn gwisgo dillad merched ac yn peintio’u gwynebau’n ddu i ymosod ar y tollbyrth, fel na fyddai neb yn eu hadnabod. 'Merched Rebecca' neu 'Ferched Beca' oedd yr enw arnyn nhw ar lafar. Dywed rhai iddynt gael eu heni ar ôl benyw o'r enw Rebecca, neu Beca Fawr, a oedd wedi benthyg ei dillad iddyn nhw. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw fod yr enw Rebecca yn gyfeiriad at adnod yn Llyfr Genesis, Pennod 24, adnod 60, lle sonir am fam a brawd Rebecca yn gadael iddi fynd gydag Eliezer, gwas Abraham, i briodi Isaac:

Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.

Achos yr helynt oedd y Turnpike Trusts newydd. Roedd rhaid talu i deithio ar hyd y ffyrdd. Roedd 'na ddeuddeg o nhw yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn Sir Benfro, dau yn Sir Aberteifi, dau yn Sir Faesyfed, un yn Sir Frycheiniog a deuddeg ym Morgannwg. Roedden nhw'n amhoblogaidd iawn yn arbennig gan ffermwyr oedd yn gorfod talu i yrru'r gwartheg hyd nhw.

Sonnir am Twm Carnabwth (Thomas Rees) fel un o'u harweinwyr. Roedd yn gymeriad cyfeillgar, lliwgar, ac yn ŵr crefyddol iawn. Roedd yn adroddwr pwnc gwych ond hefyd roedd yn enwog fel paffiwr (bocsiwr) mewn ffeiriau yn Sir Benfro, Aberteifi a Chaerfyddin. Cafodd Twm ei gladdu yng Nghapel y Bedyddwyr, Mynachlog Ddu.

Llyfryddiaeth

  • David Williams, The Rebecca Riots, Gwasg Prifysgol Caerdydd, ISBN 0-7083-0933-X Trosiad gan Beryl Thomas, Helyntion Beca (1974)
  • Pat Molloy And they blessed Rebecca, Gwasg Gomer, ISBN 0-86383-031-5
  • Catrin Stevens, Terfysg Beca (Gwasg Gomer, 2007)


Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.