Cwmni Recordiau Sain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:


Cwmni recordio a sefydlwyd yn [[1969]] gan [[Dafydd Iwan]], [[Huw Jones]], a [[Brian Morgan Edwards]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yw '''Cwmni Recordiau Sain'''.
Cwmni recordio a sefydlwyd yn [[1969]] gan [[Dafydd Iwan]], [[Huw Jones]], a [[Brian Morgan Edwards]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yw '''Cwmni Recordiau Sain'''.

Ceir sawl is-gwmni neu label gan gynnwys Crai, a sefydlwyd yn 1988 ac a gyhoeddodd gerddoriaeth [[Yr Anhrefn]], [[Mike Peters (musician)|Mike Peters]] a [[Big Leaves]], yn ogystal â chyfres ''Crai Tecno'' gan artistiaid cerddoriaeth ddawns.<ref name="Parker">Parker, Mike & Whitfield, Paul (2003) ''The Rough Guide to Wales'', Rough Guides, ISBN 978-1-84353-120-3, p. 584</ref><ref name="Hill">Hill, Sarah (2007) ''`Blerwytirhwng?` the ''
Place of Welsh Pop Music'', Ashgate, ISBN 978-0-7546-5898-6, p. 63, 87, 134''</ref>

Rasal Cyf. ydy'r label ddiweddaraf, sy'n arwyddo ac yn hybu bandiau ifanc.

Prif Weithredwr Sain ydy [[Dafydd Roberts]] a fu'n aelod blaenllaw o [[Ar Log]] ers 1976 a [[Brân (grŵp)|Brân]] cyn hynny.<ref name="BBC">"[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/north_west/4850254.stm Nashville star records Welsh hymn]", [[BBC]], 27 March 2006, retrieved 2011-01-22</ref>


==Labeli'r cwmni==
==Labeli'r cwmni==
Llinell 35: Llinell 28:


Symudwyd swyddfa'r cwmni o 62 Heol Ninian, Parc y Rhath, Caerdydd i [[Llandwrog|Landwrog]], ger [[Caernarfon]], yn [[1970]] er mwyn i'r cwmni fod yn nes i'r gynulleidfa [[Gymraeg]] ac fel rhan o'r mudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn [[Y Fro Gymraeg|ardal Gymraeg]], a sefydlodd y naill yn Llandwrog a'r llall yn y [[Waunfawr]].
Symudwyd swyddfa'r cwmni o 62 Heol Ninian, Parc y Rhath, Caerdydd i [[Llandwrog|Landwrog]], ger [[Caernarfon]], yn [[1970]] er mwyn i'r cwmni fod yn nes i'r gynulleidfa [[Gymraeg]] ac fel rhan o'r mudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn [[Y Fro Gymraeg|ardal Gymraeg]], a sefydlodd y naill yn Llandwrog a'r llall yn y [[Waunfawr]].
Yn [[1973]] symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol [[Pen-y-groes]], a dechrau cyflogi staff ychwanegol. [[Record]]iau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch hyd yn hyn, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir. O ran y deunydd, roedd y pwyslais o hyd ar ganu'r ifanc, [[canu pop]], [[canu gwerin]] a phrotest. Yn [[1975]] agorwyd stiwdio gyntaf SAIN ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â'r staff fel cynhyrchydd.


Erbyn heddiw Sain yw cynhyrchydd recordiau mwyaf Cymru gyda cherddoriaeth werin, roc, pop, hip hop, rap, canu gwlad a chlasurol yn rhan o’r ddarpariaeth ganddynt. Ystyrir mai Sain yw y cwmni recordio gyntaf Cymraeg i fod yn hunangynhaliol. Rhyddhawyd sengl gyntaf Sain yn Hydref 1969 o dan yr enw Dwr gan Huw Jones. Roedd yn gan am foddi [[cwm Tryweryn]]. Recordiwyd nifer o ganeuon cynnar y cwmni yn stiwdio Rockfield yn [[Sir Fynwy]]. Yn 2017 rhyddhaodd Sain dros 7,000 o glipiau sain a 498 clawr albwm. [
Yn [[1973]] symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol [[Pen-y-groes]], a dechrau cyflogi staff ychwanegol. [[Record]]iau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch hyd yn hyn, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir. O ran y deunydd, roedd y pwyslais o hyd ar ganu'r ifanc, [[canu pop]], [[canu gwerin]] a phrotest.

Yn [[1975]] agorwyd stiwdio gyntaf SAIN ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â'r staff fel cynhyrchydd.


1975 - [[1979]] oedd "cyfnod aur" Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o'r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, yr oedd nifer o grwpiau [[roc]] a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau fel [[Edward H. Dafis]] wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu "diwylliant roc" eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod hwn ar label SAIN oedd [[Hergest]] a [[Delwyn Siôn]], [[Geraint Jarman]], [[Heather Jones]], [[Meic Stevens]], [[Tecwyn Ifan]], [[Mynediad am Ddim]] ac [[Emyr Huws Jones]], [[Endaf Emlyn]], [[Injaroc]], [[Brân (band)|Brân]], [[Shwn]], [[Eliffant (band)|Eliffant]], [[Ac Eraill]] a [[Sidan (band)|Sidan]].
1975 - [[1979]] oedd "cyfnod aur" Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o'r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, yr oedd nifer o grwpiau [[roc]] a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau fel [[Edward H. Dafis]] wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu "diwylliant roc" eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod hwn ar label SAIN oedd [[Hergest]] a [[Delwyn Siôn]], [[Geraint Jarman]], [[Heather Jones]], [[Meic Stevens]], [[Tecwyn Ifan]], [[Mynediad am Ddim]] ac [[Emyr Huws Jones]], [[Endaf Emlyn]], [[Injaroc]], [[Brân (band)|Brân]], [[Shwn]], [[Eliffant (band)|Eliffant]], [[Ac Eraill]] a [[Sidan (band)|Sidan]].

Fersiwn yn ôl 10:46, 18 Chwefror 2019

Cwmni Recordiau Sain
Rhiant gwmni Cwmni Recordiau Sain yw rhiant gwmni label Sain, Rasal, Crai a Slic.
Sefydlwyd 1969
Sylfaenydd Dafydd Iwan, Huw Jones, a Brian Morgan Edwards
Math o gerddoriaeth Clasurol, corawl, gwerin/byd, poblogaidd, gwlad, plant
Gwlad Cymru
Gwefan swyddogol www.sainwales.com

Cwmni recordio a sefydlwyd yn 1969 gan Dafydd Iwan, Huw Jones, a Brian Morgan Edwards yng Nghaerdydd yw Cwmni Recordiau Sain.

Labeli'r cwmni

*Sain – prif label

  • Rasal – pobol ifanc
    • Copa - pop
    • Gwymon - cerddoriaeth werin
  • Slic – cerddoriaeth lyfrgell
cyn-labeli
  • Crai – y byd roc, oedd yn cael ei redeg gan Rhys Mwyn

Dyddiau cynnar

Logo gwreiddiol Sain o 1969 fel argraffwyd ar gylch canol eu recordiau feinyl

Y sengl cyntaf i'r cwmni ryddhau oedd Dŵr gan Huw Jones yn Hydref 1969, cân am foddi Cwm Tryweryn.

Symudwyd swyddfa'r cwmni o 62 Heol Ninian, Parc y Rhath, Caerdydd i Landwrog, ger Caernarfon, yn 1970 er mwyn i'r cwmni fod yn nes i'r gynulleidfa Gymraeg ac fel rhan o'r mudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn ardal Gymraeg, a sefydlodd y naill yn Llandwrog a'r llall yn y Waunfawr. Yn 1973 symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol Pen-y-groes, a dechrau cyflogi staff ychwanegol. Recordiau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch hyd yn hyn, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir. O ran y deunydd, roedd y pwyslais o hyd ar ganu'r ifanc, canu pop, canu gwerin a phrotest. Yn 1975 agorwyd stiwdio gyntaf SAIN ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â'r staff fel cynhyrchydd.

Erbyn heddiw Sain yw cynhyrchydd recordiau mwyaf Cymru gyda cherddoriaeth werin, roc, pop, hip hop, rap, canu gwlad a chlasurol yn rhan o’r ddarpariaeth ganddynt. Ystyrir mai Sain yw y cwmni recordio gyntaf Cymraeg i fod yn hunangynhaliol. Rhyddhawyd sengl gyntaf Sain yn Hydref 1969 o dan yr enw Dwr gan Huw Jones. Roedd yn gan am foddi cwm Tryweryn. Recordiwyd nifer o ganeuon cynnar y cwmni yn stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy. Yn 2017 rhyddhaodd Sain dros 7,000 o glipiau sain a 498 clawr albwm. [

1975 - 1979 oedd "cyfnod aur" Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o'r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, yr oedd nifer o grwpiau roc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau fel Edward H. Dafis wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu "diwylliant roc" eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod hwn ar label SAIN oedd Hergest a Delwyn Siôn, Geraint Jarman, Heather Jones, Meic Stevens, Tecwyn Ifan, Mynediad am Ddim ac Emyr Huws Jones, Endaf Emlyn, Injaroc, Brân, Shwn, Eliffant, Ac Eraill a Sidan.

Roedd Dafydd Iwan yn parhau i ddenu tyrfaoedd gyda'i ganeuon personol gwleidyddol, a SAIN yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â'r deffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y 1960au. Roedd nifer o artistiaid SAIN yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Cymreig, ac hefyd yn flaenllaw yn y mudiad cenedlaethol gwleidyddol. Enillodd Plaid Cymru ei seddau cyntaf yn San Steffan yn 1966 (Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin) a 1974.

Trebor Edwards a Hogia'r Wyddfa oedd y ddau enw mwyaf poblogaidd yn y canu "canol-y-ffordd", yn ogystal â grwpiau eraill fel Hogia Llandegai a Tony ac Aloma. Gwerthiant recordiau'r artistiaid hyn, a recordiau corau meibion, oedd asgwrn cefn y cwmni.

Yr wythdegau

Agorwyd Stiwdio SAIN, gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn 1980. Ar y pryd, yr oedd hi gyda'r mwyaf modern o'i bath yn Ewrop, ac yr oedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o Ben-y-groes i'r un safle â'r Stiwdio yn 1982. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio'n amser-llawn i'r cwmni.

Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu'r stiwdio newydd, a bu'n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau Barcud a chwmni cynhyrchu Tir Glas ar gyfer sianel deledu newydd S4C. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu , er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i SAIN.

Cymerwyd lle Hefin Elis fel cynhyrchydd staff gan Gareth Hughes Jones, ac yna gan Emyr Rees. Cynhyrchwyr eraill a fu'n gyfrifol am rai o recordiau SAIN yw Tudur Morgan, Les Morrison, Simon Tassano, Donal Lunny, Euros Rhys, Steffan Rees, Gareth Glyn, Geraint Cynan, Myfyr Isaac, Annette Bryn Parri, a'r diweddar Gareth Mitford Williams.

Yn 1987, agorwyd Stiwdio 2 yng Nghanolfan SAIN, sydd bellach â'r gallu i olygu'n ddigidol, a chynhyrchu Cryno-Ddisgiau. Mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno bellach, wrth i SAIN ddatblygu cysylltiadau â'r byd teledu, ffilm a fideo.

Y cwmni ar werth

Yn Rhagfyr 2012 cyhoeddwyd fod y cwmni ar werth. Maent am sicrhau y cedwir y cwmni yn weithredol fel ag y mae, ac am osgoi gwerthu i rywun fyddai ond a diddordeb yn yr ôl-gatalog a'r hawlfreintiau.[1] Ond cyhoeddwyd yn Rhagfyr 2015 na fyddai'r cwmni yn cael ei werthu wedi'r cyfan a byddai'r cwmni yn datblygu ap ffrydio cerddoriaeth "ApTon" ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg.[2]

Cyfeiriadau

  1. Label Recordiau Sain ar werth , BBC Cymru Fyw, 20 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2017.
  2. Cwmni recordiau ddim ar werth , BBC Cymru Fyw, 13 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2017.

Dolenni allanol