Llosgfynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ortográfia reduzida
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Ortográfia reduzida
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 6: Llinell 6:
== Echdoriadau diweddar ==
== Echdoriadau diweddar ==
[[Delwedd:Pelean Eruption-numbers.svg|bawd|chwith|Diagram o echdoriad yn Hawaii. 1. Lludw 2. Lafa 3. Ceudwll 4. Pwll lafa 5. ''Fumaroles'' 6. Llif y lafa 7. Haenau o lafa a lludw <br />8. Stratwm 9. Silff 10. Sianel fagma 11. Siambr fagma 12. Deic]]
[[Delwedd:Pelean Eruption-numbers.svg|bawd|chwith|Diagram o echdoriad yn Hawaii. 1. Lludw 2. Lafa 3. Ceudwll 4. Pwll lafa 5. ''Fumaroles'' 6. Llif y lafa 7. Haenau o lafa a lludw <br />8. Stratwm 9. Silff 10. Sianel fagma 11. Siambr fagma 12. Deic]]
Llosgfynydd yn [[Gwlad yr Iâ|Ngwlad yr Iâ]] ydy [[Eyjafjallajökull]] ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef [[Grímsvötn]]. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 [[kilometr|km]]. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.
Llosgfynydd yng [[Gwlad yr Iâ|Ngwlad yr Iâ]] ydy [[Eyjafjallajökull]] ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef [[Grímsvötn]]. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 [[kilometr|km]]. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.


== Llosgfynyddoedd y Byd ==
== Llosgfynyddoedd y Byd ==

Fersiwn yn ôl 19:57, 17 Chwefror 2019

Llosgfynydd yn Tambora, Indonesia

Caiff llosgfynydd (mynydd tân) ei greu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 10 km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf lafa neu lludw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys nwy.

Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.

Echdoriadau diweddar

Diagram o echdoriad yn Hawaii. 1. Lludw 2. Lafa 3. Ceudwll 4. Pwll lafa 5. Fumaroles 6. Llif y lafa 7. Haenau o lafa a lludw
8. Stratwm 9. Silff 10. Sianel fagma 11. Siambr fagma 12. Deic

Llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ ydy Eyjafjallajökull ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef Grímsvötn. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 km. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.

Llosgfynyddoedd y Byd

Dyma rai o'r llosgfynyddoedd enwocaf:

Llosgfynyddoedd Cymru

Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er enghraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato