Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
B Categoriau
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
B Nodyn Prifysgol
Llinell 102: Llinell 102:
* [https://www.aber.ac.uk/cy/ibers/ Gwefan IBERS]
* [https://www.aber.ac.uk/cy/ibers/ Gwefan IBERS]
* [https://bbsrc.ukri.org/research/institutes/strategically-funded-institutes/ Canolfannau'r BBSRC]
* [https://bbsrc.ukri.org/research/institutes/strategically-funded-institutes/ Canolfannau'r BBSRC]

{{Prifysgol Aberystwyth}}


[[Categori:Prifysgol Aberystwyth]]
[[Categori:Prifysgol Aberystwyth]]

Fersiwn yn ôl 14:43, 12 Chwefror 2019

Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Adeiladau ymchwil yr athrofa
Sefydlwyd 1919
Math Amaeth
Bywydeg
Cyfarwyddwr Yr Athro Iain Donnison
Israddedigion 1,300
Ôlraddedigion 150
Lleoliad Aberystwyth, Cymru
Cyn-enwau Yr Orsaf Bridio Planhigion
Y Ganolfan Ymchwil Glaswelltir a'r Amgylchedd
Athrofa'r Gwyddorau Biolegol
Tadogaethau Prifysgol Aberystwyth
Gwefan aber.ac.uk/cy/ibers/

Adran ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Mae ganddi gyfrifoldeb dros addysg, ymchwil a menter busnes ym meysydd defnydd tir a'r economi wledig. Mae'r athrofa yn un o wyth canolfan sydd wedi eu hariannu yn strategol gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Safleoedd

Mae'r athrofa wedi ei lleoli ar ddau brif safle. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith dysgu yn digwydd yn adeiladau Edward Llwyd, IBERS a Cledwyn ar gampws Penglais y brifysgol, tra bo gwaith ymchwil yr athrofa yn digwydd ar gampws Gogerddan, ddwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth, ger Penrhyn-coch a Bow Street.

Addysg

Mae IBERS yn cynnig graddau israddedig mews sawl pwnc, gan gynnwys amaethyddiaeth, bywydeg, biocemeg, ecoleg, geneteg, bioleg forol, microfioleg, bioleg planhigion, milfeddygaeth a swoleg. Mae'r athrofa hefyd yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig ac, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangol, cwrs dysgu o bell mewn Cynhyrchiad Bwyd Cynhaliadwy ac Effeithlon. Mae gan yr athrofa tua 1300 o israddedigion, tua 150 o fyfyrwyr ôl-raddedig, 70 darlithydd llawn amser a nifer tebyg o ddarlithwyr cysylltiol rhan amser.

Ymchwil

Mae gan IBERS dair thema ymchwil: Gwyddoniaeth Anifeiliol a Microfiolegol, Effaith Amgylcheddol ac Amrywiaeth Genomaidd. Mae'r athrofa hefyd yn gartref i Ganolfan Ffenomeg Planihigion Genedlaethol y BBSRC.

Bridio planhigion

Mae IBERS yn rhedeg rhaglenni bridio ar gyfer gwair, codlysiau, ceirch a miscanthus.

Hanes

Mae gan IBERS hanes cymhleth, yn dilyn cyfuno llawer o ganolfannau.

Coleg Prifysgol Cymru

Agorodd Coleg Prifysgol Cymru yn 1872, gyda darlithoedd mewn bywydeg yn dechrau yn 1874. Agorwyd adran amaethyddiaeth yn 1891.[1]

= Yr Orsaf Bridio Planhigion

Agorwyd yr Orsaf Bridio Planhigion yn 1919, yn dilyn rhodd o £10,000 gan Laurence Philipps, yr Arglwydd Milford.[2] Penodwyd RG Stapledon yn gyfarwyddwr ar yr orsaf ac yn athro botaneg amaethyddol yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Fe leolwyd yr orsaf yn wreiddiol ar Ffordd Alexandra, gyda thir ar ffermydd Penglais a Frongoch.[3]

Symudwyd yr orsaf i adeilad newydd ar fryn Penglais yn 1939 (adeilad Cledwyn y brifysgol erbyn heddiw), cyn symud eto i Blas Gogerddan ger Bow Street yn 1955.

Y Ganolfan Ymchwil Glaswelltir

Sefydlwyd y Ganolfan Gwella Glaswelltir yn Drayton, ger Stratford upon Avon, Swydd Warwick, Lloegr. Yn 1949, fe'i symudwyd i safle newydd yn Hurley, Berkshire ac fe'i hailenwyd fel y Ganolfan Ymchwil Glaswelltir. Daeth safle North Wyke yn Nyfnaint yn rhan o'r ganolfan yn 1981.[4]

Coleg Amaethyddol Cymru

Sefydlwyd Coleg Amaethyddol Cymru yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth yn 1970. Cyfunwyd y coleg ag adran amaethyddiaeth Coleg Prifysgol Cymru yn 1995 i ffurfio Athrofa Gwyddorau Gwledig y brifysgol.

Y Ganolfan Ymchwil Anifieliaid a Glaswelltir

Yn 1985, cyfunwyd y Ganolfan Ymchwil Glaswelltir â'r Ganolfan Ymchwil Llaetheg Genedlaethol, gan ffurfio'r Ganolfan Ymchwil Anifeiliaid a Glaswelltir.[4]

Y Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid

Yn 1987, penderfynodd y Cyngor Ymchwil Amaethyddiaeth a Bwyd (AFRC) ailstrwythuro eu gwaith ymchwil, gan wneud yr Orsaf Bridio Planhigion yn ganolfan annibynnol, heb fod yn rhan o Goleg Prifysgol Cymru. Cyfunwyd yr orsaf gyda safleoedd y Ganolfan Ymchwil Anifeiliaid a Glaswelltir yn Hurley a North Wyke a'r Ganolfan Ymchwil Ieir yn Roslin ger Caeredin, gan ffurfio'r Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid dan oruwchwyliaeth yr AFRC.[5]

Y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol

Cafwyd mwy o ailstrwythuro dair mlynedd yn ddiweddarach. Daeth ymchwil ar foch i ben a symudwyd yr adran ymchwil ieir yn ôl i Roslin, gyda'r adrannau oedd ar ôl yn cael eu hadnabod fel y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol, gyda safleoedd yng Ngogerddan, North Wyke, Bronydd Mawr a Hurley. Daeth safle newydd yn Nhrawsgoed hefyd yn rhan o'r ganolfan. Ceuwyd y safle yn Hurley yn 1992.[6]

Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Ym mis Ebrill 2008, unodd y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol ag Athrofa Gwyddorau Biolegol Prifysgol Aberystwyth, gan ffurfio'r ganolfan bresenol.

Cyfarwyddwyr

Yr Orsaf Bridio Planhigion

  • Syr George Stapledon 1919–1942
  • T.J. Jenkin 1942–1950
  • E.T. Jones 1950–1958
  • P.T. Thomas 1958–1974
  • J.P. Cooper 1975–1983
  • R.Q. Cannell 1984–1987
  • J.L. Stoddart 1987

Y Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid

  • J. Prescott 1987–1988
  • J.L. Stoddart 1988–1990

Y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol

  • J.L. Stoddart 1990–1993
  • Chris Pollock 1993–2007
  • Mervyn Humphries 2007–2008

Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

  • Wayne Powell 2008–2014
  • Mike Gooding 2014–present

Cyfeiriadau

  1. Davies, Russell (2008), "Landmarks in agricultural, biological and land-based studies at Aberystwyth", IBERS Knowledge-based innovations (Aberystwyth: IBERS)
  2. Thomas, P.T. (1969), "Fifty years progress at the Welsh Plant Breeding Station", Jubilee Report of the Welsh Plant Breeding Station (Aberystwyth: University College of Wales)
  3. Valentine, J. (2009), "90 Years of the Welsh Plant Breeding Station", IBERS Innovations (Aberystwyth: Aberystwyth University) 9
  4. 4.0 4.1 Humphreys, Mervyn (2007), "Director's Introduction", IGER Annual Report (Aberystwyth: AFRC)
  5. Stoddart, J.L. (1986), "Director's Report", Welsh Plant Breeding Station Annual Report (Aberystwyth: University College of Wales)
  6. Stoddart, J.L. (1989), "Director's Introduction", IGAP Annual Report (Aberystwyth: AFRC)

Dolenni allanol