Derwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 22: Llinell 22:
Ym mis Ebrill 2013 cwympodd derwen Pontfadog, derwen hynaf Cymru ac mae'n debyg un o'r hynaf yng ngogledd [[Ewrop]]. Dywedir iddi dyfu yn Y Waun ger [[Wrecsam]] ers y flwyddyn 802. Gwyddys i [[Owain Gwynedd]] ymgasglu ei fyddin o dan y goeden yn 1157, cyn gorchfygu'r [[Brenin Hari II]] yng nghyrch [[Crogen]] gerllaw.<ref>Oriel gwefan Llen Natur (llun gyda chaniatad Coed Cadw)[https://www.llennatur.cymru/]</ref>
Ym mis Ebrill 2013 cwympodd derwen Pontfadog, derwen hynaf Cymru ac mae'n debyg un o'r hynaf yng ngogledd [[Ewrop]]. Dywedir iddi dyfu yn Y Waun ger [[Wrecsam]] ers y flwyddyn 802. Gwyddys i [[Owain Gwynedd]] ymgasglu ei fyddin o dan y goeden yn 1157, cyn gorchfygu'r [[Brenin Hari II]] yng nghyrch [[Crogen]] gerllaw.<ref>Oriel gwefan Llen Natur (llun gyda chaniatad Coed Cadw)[https://www.llennatur.cymru/]</ref>
* ''Major Oak''
* ''Major Oak''
Efallai mai’r ''Major Oak'' yn [[Fforest Sherwood]], [[swydd Nottingham]] ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llen gwerin, defnyddid y goeden hon gan [[Robin Hood]] a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr [[Oes Fictoria|Oes Fictoraidd]], mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn [[swydd Dorset|Norset]] trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a [[DNA]]'r Major Oak.<ref name=Coleman> Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38</ref>
Efallai mai’r ''Major Oak'' yn [[Fforest Sherwood]], [[swydd Nottingham]] ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llên gwerin, defnyddid y goeden hon gan [[Robin Hood]] a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr [[Oes Fictoria|Oes Fictoraidd]], mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn [[swydd Dorset|Norset]] trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a [[DNA]]'r Major Oak.<ref name=Coleman> Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38</ref>


=== Mytholeg a chred ===
=== Mytholeg a chred ===

Fersiwn yn ôl 19:31, 10 Chwefror 2019

Derw
Derwen goesog Quercus robur
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fagales
Teulu: Fagaceae
Genws: Quercus
L.
Rhywogaethau

mwy na 500

Erthygl am y goeden yw hon. Ceir erthygl arall am y pentref yma.

Coed a llwyni sy'n perthyn i'r genws Quercus yw derw. Maen nhw'n cynhyrchu ffrwyth a elwir yn fes. Ceir dwy rywogaeth frodorol yng Nghymru: Derwen goesog (Quercus robur) a Derwen ddigoes (Quercus petraea).

Breninbrennau derw

Ym mis Ebrill 2013 cwympodd derwen Pontfadog, derwen hynaf Cymru ac mae'n debyg un o'r hynaf yng ngogledd Ewrop. Dywedir iddi dyfu yn Y Waun ger Wrecsam ers y flwyddyn 802. Gwyddys i Owain Gwynedd ymgasglu ei fyddin o dan y goeden yn 1157, cyn gorchfygu'r Brenin Hari II yng nghyrch Crogen gerllaw.[1]

  • Major Oak

Efallai mai’r Major Oak yn Fforest Sherwood, swydd Nottingham ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llên gwerin, defnyddid y goeden hon gan Robin Hood a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr Oes Fictoraidd, mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn Norset trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a DNA'r Major Oak.[2]

Mytholeg a chred

Mewn nifer o ddiwylliannau Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Celtiaid (gweler drunemeton), roedd y dderwen yn goeden sanctaidd. Derwen yw tarddiad poblogaidd y gair Gymraeg derwydd, ond gwyddys bellach nad oes sail ieithyddol i hynny. Ym mytholeg y Germaniaid roedd y goeden yn perthyn i Ddonar, duw'r mellt. Roedd y Groegiaid yn ei chysylltu â Zeus, pennaeth duwiau Olympws; plennid derw sanctaidd mewn cysegrfannau fel Dodona. Mae'r dderwen yn symboleiddio nerth gwrywaidd a dyfalbarhad.

Derwen ddigoes: dail a mes

Cyfeiriadau

  1. Oriel gwefan Llen Natur (llun gyda chaniatad Coed Cadw)[1]
  2. Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38