Eira: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 30: Llinell 30:
*Eira mawr 18 Ion 1881</br>
*Eira mawr 18 Ion 1881</br>
Fe gofir hwn fel ''The Great Victorian Blizzard'' ar 18 Ion 1881 ond roedd yn rhan o gyfnod hwy eira neu [[heth]].
Fe gofir hwn fel ''The Great Victorian Blizzard'' ar 18 Ion 1881 ond roedd yn rhan o gyfnod hwy eira neu [[heth]].
::''Continuation of severe frost and easterly gale in Thames estuary resulted in serious flooding. At high water ice floes were within one foot of the top of the terrace balcony of the House of Commons.''<ref>Cylchgrawn Weather rhifyn 51:Llundain</ref>
::''Continuation of severe frost and easterly gale in Thames estuary resulted in serious flooding. At high water ice floes were within one foot of the top of the terrace balcony of the House of Commons.''<ref>Cylchgrawn Weather rhifyn 51:Llundain</ref></br>
::Porthmadog: ''an unusual record of a smew [lleian wen] obtained at Porthmadog market on 21 January 1881'' <ref>Birds in Wales: Lovegrove et al. (1994)</ref>
::Porthmadog: ''an unusual record of a smew [lleian wen] obtained at Porthmadog market on 21 January 1881'' <ref>Birds in Wales: Lovegrove et al. (1994)</ref> </br>
::24 Ion 1881, ''Abergwyngregyn: attendance very poor owing to the badweather''<ref>Cofnodion yr Aber National School: Archifdy Gwynedd, Caernarfon</ref>
::24 Ion 1881, ''Abergwyngregyn: attendance very poor owing to the badweather''<ref>Cofnodion yr Aber National School: Archifdy Gwynedd, Caernarfon</ref>



Fersiwn yn ôl 10:02, 6 Chwefror 2019

Eira ar wyneb y ddaear yn ôl treigl y tymhorau.

Ffurfir eira (hefyd: 'eiry', 'ôd' neu 'nyf') pan fo gwlybaniaeth yn yr awyr yn troi'n grisialau rhew. Dan rai amgylchiadau, gellir cael eirlaw, sef eira yn gymysg â glaw, neu gesair (cenllysg), sef glaw wedi rhewi.

Fel rheol ceir eira yn y rhannau oeraf o'r byd, yn y gogledd ac yn y de. Yn nes at y cyhydedd, ni cheir eira fel rheol, ond ceir eira ar fynyddoedd uchel e.e. ar fynydd Kilimanjaro yn Tansanïa ac yn yr Andes yn Ne America. Ceir nifer o ddywediadau ar lafar am eira gan gynnwys 'eira mân, eira mawr' a cheir llawer o farddoniaeth amdano gan gynnwys Dafydd ap Gwilym:

Ni chysgaf, nid af o dŷ
Ym mhoen ydd wyf am hynny...

Eira cynnar

Dyma gofnod eira ym mis Hydref gan Steffan ab Owain. “Cafodd Richard Powell ar ei ffordd i Ysbyty Ifan ei ddal mewn storm o eira ar y Migneint a mynd ar goll ac mae'n debyg fferu i farwolaeth. Fe'i claddwyd ar 17 Hydref 1795. Dyddiad tra chynnar am eira trwm” meddai Steffan.[1]

Roedd y cyfeiriad yn yr englyn isod at fis Tachwedd yn arbennig o addas pan y'i cyhoeddwyd ym Mwletin Llên Natur rhifyn 35 (Ionawr 2011) ar ôl gaeaf caled a chynnar a ddechreuodd yn Tachwedd 2010!

Mil chwechant, bwriant bob awr, – ac ugen,
Ac agos i’r Ionawr,
Y[m] mis Tachwedd cyneddfawr,
Ni a wiriwn fod eira yn fawr. [Eira mawr 1628][2]

Eira hwyr

Sylwadau am flynyddoedd o eira yn sefyll yn hwyr i'r gwanwyn (fel arfer ar ôl gaeaf oer):

2010

"Yr oedd cymaint â thy o hyd ar 5ed Mehefin [2010] pan rhedasom heibio iddo... 100-150 troedfedd o hyd a 10 troedfedd da o drwch o hyd. Ymddangosai mor fach o Fangor, ond mor anferth yn agos. Fe'i lleolais yn agos i'r Afon Caseg o dan Foel Grach tua SH 685656. Credaf iddo oroesi tan tua'r 15ed Mehefin."[3]

1947
Ar Gader Idris cafodd Peter Benoit o’r Bermo snow patch ar ben Llwybr Gwernan (Fox's Path ar 28 Mai 1947 ar ôl gaeaf oer iawn bythgofiadwy y flwyddyn honno.[4]

Eira cofiadwy

  • Eira mawr 18 Ion 1881

Fe gofir hwn fel The Great Victorian Blizzard ar 18 Ion 1881 ond roedd yn rhan o gyfnod hwy eira neu heth.

Continuation of severe frost and easterly gale in Thames estuary resulted in serious flooding. At high water ice floes were within one foot of the top of the terrace balcony of the House of Commons.[5]
Porthmadog: an unusual record of a smew [lleian wen] obtained at Porthmadog market on 21 January 1881 [6]
24 Ion 1881, Abergwyngregyn: attendance very poor owing to the badweather[7]

Newid Hinsawdd

Wrth i'r hinsawdd fynd yn gynhesach mae'r newid yn ymddangosiad tymhorol eira ar y mynyddoedd yn fath o procsi i'r newidiadau hynny. Llwyddodd y daearyddwr Les Larsen i gasglu gwybodaeth am ddyddiad yr eira cyntaf pob blwyddyn bron ar y Carneddau, ers y 1940au cynnar. Amlyga'r data dueddiad pendant i eira ddisgyn yn hwyrach wrth i'r cynhesu ehangach fynd rhagddo.

Graff yn dangos y duedd i eira ddisgyn ar y Carneddau yn hwyrach (data Les Larsen gyda chaniatad)

Mae data Les Larsen o ddyddiad diflannu'r eira olaf yn dilyn tuedd i fod yn gynharach dros amser yn adlewyrchu gaeafau sy'n gynyddol dyner, ond nid yw'r duedd honno mor gref.

Mae ambell fwlch yn y cofnodion, er enghraifft pan oedd Les yn yr RAF, ond mae’r gyfres yn dangos yn glir bod tuedd i’r eira cyntaf ddisgyn ar fynyddoedd Eryri yn hwyrach heddiw nac yn nechrau’r cyfnod (ar ôl gwneud y syms, unwaith mewn mil fyddai’r data hyn yn digwydd ar hap). Afraid dweud bod hyn yn gyson a Chynhesu’r Hisawdd.

Cysylltiadauâ phobl

Mewn cyfweliad gyda William Owen o Ddyffryn Ardudwy ar raglen Dei Tomos ym mis Tachwedd y llynedd, soniodd WO am ei fam Rhinogwen yn cael ei geni (ar yr un diwrnod â Kyffin Williams!) pan oedd eira ar y Rhinogydd gerllaw. Felly y cafodd ei henw Rhinogwen. Y dyddiad hwyr oedd 9ed Mai 1918. Oedd yna eira ar y mynyddoedd ym mis Mai y flwyddyn honno ynteu rhamant teuluol ydoedd? Cofnodion o Ben Llŷn yn unig sydd i’w cael am y cyfnod yn Nyddiadur Llên Natur hyd yn hyn - nid yr ardal orau i brofi eira mis Mai sr y Rhinogydd!

Gweler hefyd

Chwiliwch am eira
yn Wiciadur.
  1. Steffan ab Owain, cys. pers. (DB)
  2. Cathryn Charnell White, Prifysgol Aberstwyth, (cys. i'w gyhoeddi yn Nhywyddisdur Llên Natur DB)
  3. Charles Aron, 2010 ym Mwletin Llên Natur rhifyn 30[1] cyfieithiad, gweler y ddolen am y gwreiddiol
  4. Bwletin Llên Natur rhifyn 30[2]
  5. Cylchgrawn Weather rhifyn 51:Llundain
  6. Birds in Wales: Lovegrove et al. (1994)
  7. Cofnodion yr Aber National School: Archifdy Gwynedd, Caernarfon