Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ac Eraill"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 112 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
No edit summary
| URL =
| aelodaupresenol =
| cynaelodau = [[Cleif Harpwood]], [[Tecwyn Ifan]], [[Alun 'SbardynSbardun' Huws]], [[Phil Edwards]], [[Iestyn Garlick]] John Morgan, Huw (Bala) Williams
| prifofferynau = [[Telyn]], [[Gitâr]], [[Mandolin]], [[Drymiau]], Gitâr Fâs
| gwefan = dim ar gael
}}
 
Grŵp poblogaidd, Cymraeg a gweriniaethol o'r [[1970au]] oedd '''Ac Eraill''' a ffurfiwyd yn 1972. Roedd aelodau gwreiddiol y grŵp, Tecwyn Ifan yn fyfyrwyrfyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, [[Bangor]] (neu'n aros yno): [[Tecwyn Ifan]], [[Cleif Harpwood]], [[Iestyn Garlick|Iestyn Garlick yng Ngholeg y Drindod]] a Phil Edwards ("Phil Bach") yng Nghaerdydd. Rhyddhawyd tair record fer ar label [[Sain (Recordiau)|Sain]] cyn chwalu ym 1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, ailffurfiwyd y grŵp yn un pwrpas er mwyn rhyddhau record hir ''Diwedd Y Gân'', unwaith eto ar label Sain.
 
Cysylltir y grŵp gyda [[Mudiad Adfer]] a'i athroniaeth o ailfeddiannu a datblygu'r [[Fro Gymraeg]] yn hytrach na'r ardaloedd a Seisnigiwyd. Yn y cyfnod hwn y gwelwyd y chwyldro cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg yn dod i'w lawn dwf yng Nghymru. O ran cerddoriaeth, dyma flynyddoedd y datblygu mawr ym maes recordiau Cymraeg, a hwnnw’n adlewyrdchu’r bwrlwm a'r creadigrwydd rhyfeddol yn y byd [[canu gwerin]], pop a roc Cymraeg. Yn y byd recordio, hwnnw oedd degawd aur Stiwdio Gwernafalau, [[Cwmni Recordiau Sain]]. Yn ennill eu lle yn rheng flaen y chwyldro cerddorol hwnnw mae Ac Eraill, y lleisiau llawn harmoni, wedi eu priodi â chaneuon gafaelgar a heriol [[Tecwyn Ifan]], y peiriant a yrrai'r drol, ond ymunodd [[Phil Edwards]], [[Iestyn Garlick]] a [[Alun 'Sbardun' Huws|Alun 'Sbardyn' Huws]] a ddaeth i'r amlwg drwy Ac Eraill, ynghyd â [[Cleif Harpwood]], Huw Bala a John Morgan.<ref>[https://www.sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd27291 www.sainwales.com;] adalwyd 25 Awst 2017.</ref>
 
Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel 'Nia Ben Aur' ar y cyd efo Clive Harpwood, 'Tua'r Gorllewin' a 'Chwm Nant Gwrtheyrn' yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o [[Mudiad Adfer|Fudiad Adfer]] ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr [[opera roc]] [[Nia Ben Aur]] a lwyfannwyd yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974|Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin]] ym 1974.
 
Eu record gyntaf oedd honno o'r un enw a'r grŵp ac a ryddhawyd ar label Sain (SAIN 34E) yn 1973 ac roedd yn cynnwys 4 cân: '[[Tua'r Gorllewin]]', 'Dianc', 'Carchar' a 'Hen Wr o'r Coed'.<ref>[https://www.discogs.com/Ac-Eraill-Ac-Eraill/release/8758789 www.discogs.com;] adalwyd 25 Awst 2017.</ref> Ar feinyl 7" hefyd, flwyddyn yn ddiweddarach, y rhyddhawyd eu hail record, ''Addewid'' (SAIN 43E) a oedd yn cynnwys 'Cwm Nantgwrtheyrn', 'Catraeth', '[[Marwnad Yr Ehedydd]]' a 'Faban Bach Clyd'.
1

golygiad

Llywio