John Evans (I. D. Ffraid): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
Priododd am y tro cyntaf ar y 9fed o Dachwedd 1836 ag Ann Williams a bu iddynt chwech o blant. Bu farw Ann ym 1850. Fe briododd am yr ail waith a Hanna (1812-1896) ym 1853.<ref>[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3452164/ART51 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau yn Y Cymro 11 Mehefin 1896] adalwyd 19 Chwef 2014</ref> |

[[Delwedd:Bedd I D Ffraid Eglwys San Ffraid Glan Conwy.jpg|bawd|chwith|Bedd I D Ffraid Eglwys San Ffraid Glan Conwy]] |
[[Delwedd:Bedd I D Ffraid Eglwys San Ffraid Glan Conwy.jpg|bawd|chwith|Bedd I D Ffraid [[Eglwys Sant Ffraid, Llansanffraid Glan Conwy|Eglwys San Ffraid, Glan Conwy]]]] |
||
Bu farw ar 4ydd Mawrth 1875 yn ei gartref yn Llansanffraid Glan Conwy a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys y plwyf<ref>Cofrestr Claddu Llansanffraid Glan Conwy tudalen 39 Rhif 311(yng ngofal Archifdy Sir Ddimbych)</ref>. Cafwyd tanysgrifiad cenedlaethol o dan arweinyddiaeth [[Thomas Gee]] i godi cofadail ar ei fedd.<ref>[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3288116/ART20 The late I D Ffraid yn y Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshire, and North Wales Journal 19 Mawrth 1875 ] adalwyd 19 Chwef 2014</ref> |

Fersiwn yn ôl 18:36, 30 Ionawr 2019
John Evans | |
---|---|
Parch John Evans (I D Ffraid neu Adda Jones, 1814-75) NLW3364082 | |
Ffugenw | I. D. Ffraid |
Ganwyd | 23 Gorffennaf 1814 Llansanffraid Glan Conwy |
Bu farw | 4 Mawrth 1875 Llansanffraid Glan Conwy |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr |
Geiriadurwr a chyfieithydd Cymreig oedd John Evans (23 Gorffennaf 1814 - 4 Mawrth 1875), sy'n fwy adnabyddus wrth ei lysenw I. D. Ffraid (hefyd: Adda Jones).[1]
Bywgraffiad
Ganwyd John Evans yn y Tŷ Mawr Llansanffraid Glan Conwy ar 23 Gorffennaf 1814 yn fab hynaf i David Evans, siopwr, a Grace (née Roberts) ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys y plwyf ar 27in o'r un mis.[2]. Cafodd rhywfaint o addysg yn ysgol Thomas Hughes Abergele yn ystod 1824 ond erbyn 1825 roedd wedi ddychwelyd i Lansanffraid i weithio yn siop ei ewythr. Ym 1830 fe fu am dymor yn ddisgybl yn ysgol y Parch John Hughes yn Wrecsam, ysgol oedd yn rhoi rhywfaint o hyfforddiant i ddarpar weinidogion Methodistaidd yn y cyfnod cyn bod gan yr enwad athrofa swyddogol,[3] ond ni ddechreuodd pregethu tan 1840. Cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1853 (er na fu'n weinidog ar gapel erioed).
Priododd am y tro cyntaf ar y 9fed o Dachwedd 1836 ag Ann Williams a bu iddynt chwech o blant. Bu farw Ann ym 1850. Fe briododd am yr ail waith a Hanna (1812-1896) ym 1853.[4]
Bu farw ar 4ydd Mawrth 1875 yn ei gartref yn Llansanffraid Glan Conwy a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys y plwyf[5]. Cafwyd tanysgrifiad cenedlaethol o dan arweinyddiaeth Thomas Gee i godi cofadail ar ei fedd.[6]
Bywyd Cyhoeddus
Daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel cyfieithydd Paradise Lost John Milton (Coll Gwynfa, 1865).[1] Roedd hwn yn llyfr dylanwadol iawn yn ei gyfnod a ysbardunodd sawl bardd i gyfansoddi cerddi ar y mesur moel di-odl.[7]
Cefnogai'r ymgyrch dros ryddid addoliad ac ysgrifenodd gyfres hir o dros 500 o lythyrau ar hyn a phynciau eraill dan y llysenw "Adda Jones" a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru rhwng 1869 ac 1874.[1]
Llyfryddiaeth
- Hanes yr Iddewon (1831)
- (cyfieithydd) Bywyd Turpin Leidr (John Jones, Llanrwst 1835). Hanes Dick Turpin.
- Geiriadur Saesneg-Cymraeg (1847)
- (golygydd a chyfranydd) Difyrrwch Bechgyn Glan Conwy (1855)
- (cyfieithydd) Coll Gwynfa (1865)
- Pennau Teuluol a'r Ysgol Sabothol (1870)
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
- ↑ Cofnodion bedydd plwyf Llansanffraid blwyddyn 1814 rhif 54 (yng ngofal Archifdy Sir Ddinbych)
- ↑ MARWOLAETH Y PARCH JOHN T EVANS (I. D. FFRAID) yn Seren Cymru 19 Mawrth 1875 adalwyd 19 Chwef 2014
- ↑ Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau yn Y Cymro 11 Mehefin 1896 adalwyd 19 Chwef 2014
- ↑ Cofrestr Claddu Llansanffraid Glan Conwy tudalen 39 Rhif 311(yng ngofal Archifdy Sir Ddimbych)
- ↑ The late I D Ffraid yn y Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshire, and North Wales Journal 19 Mawrth 1875 adalwyd 19 Chwef 2014
- ↑ D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922), tud. 89.