Trabzon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: war:Trabzon |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: sw:Trabzon |
||
Llinell 54: | Llinell 54: | ||
[[sr:Трапезунт]] |
[[sr:Трапезунт]] |
||
[[sv:Trabzon]] |
[[sv:Trabzon]] |
||
[[sw:Trabzon]] |
|||
[[tr:Trabzon (merkez)]] |
[[tr:Trabzon (merkez)]] |
||
[[uk:Трабзон]] |
[[uk:Трабзон]] |
Fersiwn yn ôl 15:11, 12 Mawrth 2010
Dinas hynafol ar arfordir y Môr Du yng ngogledd-ddwyrain Twrci yw Trabzon (hen enw: Trebizond).
Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn ganolfan weinyddol i dalaith Trabzon.
Hanes
Sefydlwyd y dref hynafol fel trefedigaeth gan Roegwyr o Filetus yn y 6ed ganrif CC. Ymsefydlasant ar graig geometraidd ei ffurf a roddodd iddi ei henw gwreiddiol Trapezos (y gair Groeg am "bwrdd"). Roedd hi'n ddinas bwysig yn y cyfnod Bysantaidd. O'r flwyddyn 1204 hyd 1461 Trebizond oedd prifddinas Ymerodraeth Trebizond a reolai ran sylweddol o Asia Leiaf. Erys sawl adeilad gwych o'r cyfnod hwnnw yn yr hen ddinas. Cofnodir i'r Pla Du gyrraedd y ddinas yn y flwyddyn 1347, ar ei ffordd i Ewrop. Cipiwyd Trebizond gan Mehmet y Cwncwerwr yn 1451.
Ar ymyl y ddinas mae hen eglwys Fyzantaidd Santa Sophia yn sefyll mewn lecyn prydferth.
Sefydlwyd prifysgol yno yn 1980.