Elfyn Pritchard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Wutsje (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 86.156.103.89 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Ben Bore.
B Wedi diogelu 'Elfyn Pritchard': Fandaliaeth yn rhemp ([edit=sysop] (yn dod i ben am 18:33, 8 Ebrill 2010 (UTC)) [move=sysop] (yn dod i ben am 18:33, 8 Ebrill 2010 (UTC)))
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:33, 8 Mawrth 2010

Awdur Cymreig ydy Elfyn Pritchard, sy'n dod o Y Sarnau, ger Y Bala. Mae hefyd yn gyn-brifathro ysgol gynradd ac yn ddarlithydd ac yn adolygydd.[1][2] Mae'n Gadeirydd Panel Plant Cyngor y Celfyddydau ac yn Gadeirydd Panel llyfrau darllen CBAC. Roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 1994 ac yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau yn Y Bala ym 1997. Mae wedi bod yn olygydd Allwedd y Tannau, Cylchgrawn Cymdeithas Cerdd Dant Cymru am 17 mlynedd. Mae'n aelod o Lys a Chyngor yr Eisteddfod ac yn aelod o'r Orsedd yn dilyn ei lwyddiant yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn Ninbych.[2]

Llyfryddiaeth

Gwobrau ac Anrhydeddau

Ffynonellau

  1. 'Enillydd Tlws Mary Vaughan Jones 2003' Cyngor Llyfrau Cymru 17 Hydref 2003
  2. 2.0 2.1 Medal Daniel i Elfyn Pritchard 5 Awst 2003
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.