Sacsoffon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 34: Llinell 34:
Sacsoffonwyr [[cerddoriaeth boblogaidd|pop]]:
Sacsoffonwyr [[cerddoriaeth boblogaidd|pop]]:
* [[Kenny G]] (1956-)
* [[Kenny G]] (1956-)

{{eginyn offeryn cerdd}}


[[Categori:Sacsoffon| ]]
[[Categori:Sacsoffon| ]]
[[Categori:Dyfeisiau Belgaidd]]
[[Categori:Dyfeisiau o Wlad Belg]]
[[Categori:Offerynnau chwythbrennau]]
[[Categori:Offerynnau chwythbrennau]]
{{eginyn offeryn cerdd}}

Fersiwn yn ôl 20:37, 27 Ionawr 2019

Sacsoffon tenor

Offeryn cerdd chwythbren yw'r sacsoffon a ddyfeisiwyd gan Adolphe Sax ym 1846. Bwriad Sax oedd creu offeryn y byddai'n hawdd i'w chwarae mewn ystod o allweddi a thros amrediad eang - yn yr un ffordd a oedd yn bosib gydag offerynnau chwyth fel clarinet neu ffliwt - tra'n creu sŵn pwerus fyddai'n bosib ei glywed uwchben nifer o synau eraill, fel oedd yn bosib gydag offerynnau pres. Bwriadwyd yr offeryn yn wreiddiol ar gyfer bandiau milwrol neu fandiau pres, ac fe greodd Sax nifer fawr o fersiynau gwahanol mewn nifer o allweddi gwahanol gydag ystod enfawr, er mai pedwar fersiwn yn unig sy'n gyffredin heddiw:

  • Sacsoffon soprano yn B
  • Sacsoffon alto yn E
  • Sacsoffon tenor yn B
  • Sacsoffon baritôn yn E

Er bod sacsaffonau o fathau gwahanol yn amrywio o ran siap a maint, maent yn creu sain yn yr un ffordd ac mae'r dechneg o ran byseddu yr un fath; mae hyn yn golygu y gall unigolion sydd wedi dysgu i chwarae sacsoffon o un fath godi un o fath arall a'i chwarae yn weddol hawdd. Mae'r sacsoffon wedi ei adeiladu o bres yn bennaf, fel trwmped neu drombôn. Fodd bynnag, nid offeryn pres go iawn yw'r sacsoffôn: o ran y dull a ddefnyddir i greu sŵn, mae'r sacsoffon yn debyg iawn i'r clarinet ac yn creu sain drwy drwy ddefnyddio rhedyn yn yr un ffordd. Mae'r sacsoffon felly yn perthyn i deulu yr offerynnau chwyth ac mae sŵn y sacsoffon yn ymdebygu i sŵn y clarinet, er bod y dull o'i chwarae o ran allweddau'r offeryn yn debyg iawn i'r ffliwt clasurol fodern - seiliodd Sax yr offeryn ar system Theobald Boehm ar gyfer y ffliwt.

O'r chwith i'r dde, an sacsoffon alto yn E, sacsofffon soprano yn B soprano saxophone, and a B tenor saxophone

Mae'r Sacsoffon yn offeryn boblogaidd mewn jazz, bandiau milwrol a ska ymysg mathau eraill o gerddoriaeth.

Sacsaffonwyr Enwog

Sacsoffonwyr Jazz:

Sacsoffonwyr pop:

Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn cerdd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.