Nahwatleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ar:ناهواتل
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ga:Nahuatl (teanga)
Llinell 31: Llinell 31:
[[fi:Nahuatl]]
[[fi:Nahuatl]]
[[fr:Nahuatl]]
[[fr:Nahuatl]]
[[ga:Nahuatl (teanga)]]
[[gl:Lingua náhuatl]]
[[gl:Lingua náhuatl]]
[[gv:Nahuatl]]
[[gv:Nahuatl]]

Fersiwn yn ôl 01:01, 8 Mawrth 2010

Siaradwyr Nauhatleg yn ôl talaith ym Mecsico.

Iaith yn perthyn i deulu yr ieithoedd uto-aztecaidd yw Nahuatleg (yn dod o nāhua-tl, "sain clir neu ddymunol" a tlahtōl-li, "iaith"). Fe'i siaredir ym Mecsico yn bennaf, gyda rhai siaradwyr yn yr Unol Daleithiau a rhai o wledydd canolbarth America. Nahuatleg yw'r iaith frodorol gyda'r nifer fwyaf o siaradwyr ym Mecsico, gyda tua miliwn a hanner o siaradwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ddwyieithog gyda Sbaeneg. Ceir nifer o dafodieithoedd gwahanol.

Nahuatleg oedd lingua franca Ymerodraeth yr Aztec o'r 13eg ganrif hyd ei chwymp yn 1521. Parhaodd yr iaith i ledaenu hyd yn oed ar ôl y goncwest Sbaenaidd, oherwydd defnyddid hi gan genhadon ac eraill. Dechreuwyd defnyddio yr wyddor Ladin ar gyfer ysgrifennu'r iaith, a chyhoeddwyd y llyfr argarffedig cyntaf ynddi, Doctrina cristiana breve traducida en lengua mexicana, gan Alonso de Molina yn 1546.

Daw geiriau megis "tomato" a "siocled" o'r iaith Nahuatleg.